TAN go sâl oedd o dan y tegell mewn cwt hogi ar fin hanner dydd un tro. Daeth hen weithiwr diddan yno a gofynnodd i rybelwr oedd yno, "Ydyw Morgan byth wedi canu?"
Nag ydyw," meddai yntau, "nid yw wedi ledio pennill eto."
HEN weithiwr rhadlon braf oedd Wil, fel y gelwid ef gan ei gydweithwyr. Bu'n ofalus o'i daid yn ei waeledd yn ei flynyddoedd olaf, er hynny anghofiwyd am ei enw yn ei "Ewyllys!" Canodd hen gyfaill res o benillion iddo, a dyma un ohonynt:
"Credai Wil y byddai'n gefnog
Wedi marw ei daid cyfoethog;
Am olchi'i draed a thorri'i 'winedd,
Ni chafodd ddimai yn y diwedd."
Yr oedd un creigiwr a'i bartner yn gweithio ar hen graig
sâl ac yn methu â gwneuthur cyflog aml fis. Dywedodd
un ohonynt fod ganddo gywilydd mynd a chyn lleied o
arian ar ddydd pen cyfrif i Elin ei wraig. "Wel,
William," meddai'r prif oruchwyliwr, "mi gei ychwaneg
o bris ar y fargen at y mis nesaf," ac fe gafodd hefyd.
Gwnaeth well cyflog wedyn,-mwy nag a gafodd ers
misoedd. Pan ddaeth y goruchwyliwr i'w agor (chamber)
i 'osod' wedyn, gofynnodd, "Pa beth a ddywedodd
Elin am iti fynd a chyflog mor dda iddi y tâl diwethaf?"
"O Syr, meddwl wnaeth hi fy mod wedi mynd o'ch
chwarel i weithio i rywle arall!"
LLANC ystwyth, a medrus gyda'i orchwyl oedd J. Bu am gyfnod yn y Rhyfel Mawr cyntaf, a meddai ar atgofion difyr am lawer o gymeriadau. Byddai wrth ei fodd yn cael mygyn, ac ambell lasiad o'r "ffisig coch," chwedl yntau. Cymerai sbri am rai dyddiau a chollai ei waith.
Cafodd gerydd droeon gan y prif-oruchwyliwr, a dywedodd hwnnw yn chwyrn wrtho, "Yr wyt wedi cael pardwn