gennyf lawer tro, ond os gwelaf di yn dyfod o dafarndy eto, ni chei di weithio yn fy chwarel."
Ymhen yr wythnos digwyddodd ddyfod allan o dafarn yn syth i gyfarfod â'r goruchwyliwr! Gwahoddwyd J. i'r offis a cheryddwyd ef, ond dywedodd ef, "Chwarae teg imi, nid wedi bod yn y dafarn yn yfed oeddwn i, ond yn setlo yr hen account!" "Cer at dy waith," meddai'r mistar.
MEWN Cwt neilltuol ym M, gweithiai hen gyfaill diddan, a chadwai y peiriannau i weithio yn dda. Un bore pan aeth allan o'r cwt i oilio rhyw beiriant, gwelodd ddyn a dau gi defaid ganddo ar y bonc. "Pwy ydyw nacw?" meddai wrth W.T. "O," meddai hwnnw, I, wedi dyfod i weld y defaid ar y mynydd, ac i chwilio am loiau." "Cer i dy gwt o'r golwg rhag iddo gael gafael ynot ti!"
HEN gyfaill diddan a charedig oedd R. Daeth i weithio i'r ardal hon o Sir Gaernarfon. Yr oedd yn smociwr a chnowr baco heb ei ail, a byddai ganddo gyflawnder ohono bob amser. Un prynhawn aeth llanc ato yn y chwarel, a gofyn iddo a gawsai flewyn bach o faco ganddo. "Aros di, a gefaist ti beth o'r blaen gennyf, dywed?" meddai yntau.
"Naddo wir," meddai'r llanc. "Wel," meddai yntau, "y mae gennyf ddigon o gwsmeriaid yn barod, heb gymryd ychwaneg atynt!"
ANODD oedd taro ar un difyrrach ei sgwrs am y chwarel na B. Gweithiodd fel labrwr yno am flynyddoedd lawer. Bu'n ffeind ac yn ofalus o'i fam, aberthai bopeth er ei mwyn. Cwynai hi gan y crydcymalau a gorweddai yn ei gwely, a'r siamber yn llawn o bob cyffuriau er ceisio cael adferiad. Un tro yr oedd rhyw ddrwg ar gorn y simddai, a daeth saer maen i'w weld, ac ail-wneud y corn, ond aeth yn waeth! Ymhen rhyw bythefnos yr oedd Bob a'r saer maen gyda'i gilydd mewn tŷ neilltuol un nos,
a gofynnodd yr olaf, "Sut y mae'r hen wraig dy fam