rwan, Bob?" "Wel, a dweud y gwir iti, nid ydwyf byth wedi gweld ei hwyneb ar ôl i ti fod acw yn trwsio'r corn!"
DYN gweddol dal oedd J., ac yn greigiwr yn deall yn dda am y dull gorau i dynnu craig. Un tro yr oedd yn tyllu gyda jumper ar y graig, a daeth y goruchwyliwr heibio a dywedodd wrtho, "Y mae ceg y twll yna yn fawr iawn gennyt, John." "Hitiwch befo," meddai yntau, "y mae yn reit ddistaw."
Yr oedd un creigiwr canol oed wedi ail-briodi â gwraig flin, ac yr oedd stiward wedi ail-briodi rhyw flwyddyn o'i flaen.
Pan ail-briododd y stiward gofynnodd y creigiwr sut yr oedd ei wraig. "Wel," meddai yntau, "y mae fel y diafol ei hun." "Wyddost ti beth," meddai'r creigiwr, "y mae yn dda iawn arnat, yr ydw i wedi priodi efo'r byd, y cnawd, a'r diafol, ac y mae ei geiriau hi yn cydio fel ail bowdwr!"
YN chwarel Gloddfa Ganol y gweithiai W, fel creigiwr medrus ac ar Suliau âi i bregethu i gapelau y Wesleaid. Pregethwr da ydoedd hefyd. Un tro pregethai yn y Llan a dywedodd fel y pregethai i'r defaid, a'r gwartheg, pan oedd yn llanc.
Wrth fynd o'r capel dywedodd hen gyfaill a weithiai ar yr un bonc ag ef. "Wyddost ti beth William? Pe buaset wedi dal ati i bregethu i'r gwartheg a'r defaid yn lle i bechaduriaid buaset wedi cael lle yn weinidog iddynt erbyn hyn!"
Yr oedd un hen weithiwr caredig yn bur wael un tro. Un go galed, a geiriau miniog ganddi oedd ei wraig. Aeth ei bartner ar ymweliad ag ef a gofynnodd ei briod iddo, "Sut yr ydych yn ei weld o?" "O," meddai
yntau, "gweld yr ydw i bod un droed iddo yn yr afon yn