GWEITHIWR caled dibris ohono'i hun oedd E. nid oedd fymryn o ddiogi yn perthyn iddo. Byddai yn hoffi mynychu un tŷ tafarn neilltuol bob nos wedi dyfod o'r chwarel. Un dydd trawyd ef yn wael yn y chwarel a bu yn dihoeni yn hir. Cerddai allan am dro yn araf deg a golwg lesg arno. Un prynhawn ar heol y Blaenau, daeth gŵr y tafarndy i'w gyfarfod a gofynnodd iddo, "Ymh'le mae dy dopcôt di, dywed, ar ddiwrnod fel heddiw?" "O," meddai yntau, "y mae ar eich cefn chwi."
Yn y blynyddoedd gynt byddai llawer o weithwyr yn digwydd cysgu'n hir yn y boreau, a rhedai rhai ohonynt at eu gwaith yn chwys diferol. Byddai corn y chwarel yn canu ambell dro pan fyddent newydd gychwyn o'r tŷ. Gwelwyd llawer o dro i dro yn cyrraedd y bonc heb gael tamaid o frecwast. Yr oedd Gwilym Deudraeth wedi cysgu'n hir un tro, a dywedodd fel hyn:
Cas ydyw—anesgusodol—o gas
Yw trwm gwsg boreol;
Yr wyf yn hwyr ddifrifol,—
Hanner awr union ar ôl!
GWEITHIAI un hen frawd diddan ar yr un bonc â mi. Un plaen ei wisg a'i eiriau ydoedd, a byddai rhywun yn tynnu yn ei goes beunydd, ond yr oedd ganddo groen tew fel croen eliffant! Un grefyddol iawn oedd ei briod, a'r capel fel cartref ganddi. Un bore oer digwyddodd y ddau gysgu'n hir. Cododd ei gŵr o'i wely yn frysiog, gan erfyn ar i'w briod "wneuthur tân, a brecwast iddo mor fuan ag oedd modd." Yr oedd hi ar ei gliniau yn dweud ei phader yn hamddenol braf! Gwaeddodd ei gŵr arni, "Tyrd yn dy flaen, gad lonydd i'r Brenin Mawr y bore 'ma, mi gei di ddigon o amser i siarad hefo Fo ar hyd y dydd."