Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Fainc Sglodion.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn, dyma Twm i'r tŷ o'r cefn wedi bod yn ymolchi, a dyna'r lle'r oedd yr hen greadur fel ci mewn ffair wedi colli ei feistr. "Am ba beth wyt yn chwilio?" meddwn wrtho. Am fy esgid,' meddai yntau. Y mae'n rhaid mai hon ydi,' meddwn wrtho. 'B'le mae fy un i Mari?" 'O,' meddai hithau, chofiais i ddim amdani, y mae yng ngweithdy'r crydd er neithiwr; rho dy esgid orau am heddiw (a dyma fi, weldi, torrais y garai wrth dynnu wedi gwylltio; oes gennyt ti ddim pwt yn dy boced?) Gyda hyn, dyma wraig y tŷ nesaf yn dyfod a'r tepot, ac wedi tywallt cwpaned nid oedd dim te ynddo! Na hitia,' meddwn wrth Mari, gwna damaid extra mewn papur, y mae yn rhy hwyr.' Wel, 'd awn i fyth o'r fan yma dyma fi wedi rhoddi'r pwys bacwn yn fy mhoced mewn camgymeriad. Wel, fe âf i brynu cloc larwm heno nesaf, ac fe'i cadwaf yn fy nghesail yn fy ngwely, fel T——, trwy'r nos rhag i hyn ddigwydd eto."

"Hynny ydi'r gorau," meddai Dafydd, "a gofalu am ei windio cyn mynd i'r gwely."

BYDDAI marchnad brysur yn Hall y Blaenau yn y blynyddoedd gynt. Deuai rhai yno o Lanrwst i werthu esgidiau campus, a byddai yno lawer o Iddewon yn gwerthu oriaduron a modrwyau a thlysau amryliw. Mewn lle neilltuol yno, gwerthai amryw fwtsieriaid o Drawsfynydd a lleoedd eraill gigoedd gwerth i'w bwyta. Un tro agorodd bwtshiar dieithr stondin i werthu cig yno. Wedi bod yno am dair wythnos, gofynnodd i'r gŵr oedd yn gwerthu cig yn ei ymyl, a fuasai yn taflu ei olwg ar ei stondin, tra byddai ef yn picio am lasiad i westy gerllaw i'r farchnad. Gwnaeth yntau, ond er ei fawr syndod gwelodd rhyw hen gi mawr yn mynd a darn o gig yn ei geg oddi ar y stondin! Wedi i'r siopwr ddyfod yn ôl, dywedodd y drefn wrth y gwyliwr am na fuasai wedi gwneud ei waith fel yr addawodd. "Ni ddeuaf a'm cig yma i gŵn gael ei gario oddi yma," meddai. "Wel, yr

hen gyfaill," meddai'r llall, "os deui yma'n hir hefo dy