Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Fainc Sglodion.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gig, mi fydd rhai gwaeth na chŵn yn cario dy gig di, heb dalu amdano!"

DYN go fyr, a gweithiwr caled oedd J. Bu'n eithriadol o garedig wrth rybelwyr. Annibynnwr ydoedd ac un o'r goreuon. Yr oedd ganddo frawd yn weinidog cymeradwy gyda'r enwad. Un tro, daeth hwnnw i bregethu i'r ardal hon, ac aeth llawer o gydweithwyr J. i wrando arno. Nid oedd cystal ag a arferai fod y Sul hwnnw. "Wel, J., credaf y buaset ti yn gwneud gwell pregethwr na dy frawd." "Yr ydw innau yn meddwl," meddai, "ataf fi y daeth yr alwad, ond fy mrawd a wnaeth ei hateb."

UN o'r cymeriadau gwreiddiolaf yn ei ddydd yn ein henfro, oedd Robert Jones, Penllwyn, Tanygrisiau. Hoffai ef i bawb ei alw yn "Robin Sion." Preswyliai ei dad a'i fam—William a Laura Jones, mewn annedd-dŷ oedd yn chwarel Holland. Wedi hynny symudasant i fyw i Riwbryfdir, yr oedd llai o waith dringo iddynt yno. Buont yn ffyddlon yn eglwys y Rhiw, ac yr oedd ganddynt lawer o berthnasau,—pobl garedig, plaen a di-lol. Pan oedd Robin Sion yn caru, ac wedi hwylio i briodi, dywedodd ei gariadferch wrtho, "Y mae'n rhaid imi dy gael di Robin bach, pe byddai raid inni fyw ar fara â dŵr!"

"Wel," meddai yntau, "gofala di am ddigon o fara, mi ofala innau am ddigon o ddŵr."

Wedi priodi aeth i fyw i Penllwyn,—bwthyn bach del, a gwelir ef o'r ffordd fawr heddiw, ar le uchel. Heibio ei ffrynt flynyddoedd yn ôl yr oedd y briffordd, a'r ffordd haearn i Borthmadog. Gerllaw iddo yr oedd Wrysgan Fawr, Brynffynnon, Fron Wen, Pantycelyn, a hen gapel y Methodistiaid Calfinaidd, a chynhelid yn hwnnw ysgol ddydd ar ddyddiau'r wythnos. Gerllaw hefyd yr oedd gweithdy Dafydd Hughes y crydd, a'i feibion—David, Richard, ac Owen, yno gyda'u tad yn prysur wneuthur

esgidiau campus. Ymgynullai llawer yno i drin