Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Fainc Sglodion.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwahanol bynciau wedi dyfod o'r chwarel. Clywais y tri brawd yn adrodd llawer o hanes Robin Sion; yr oeddynt yn gyfeillion calon iddo, ac ymwelwr cyson â'r gweithdy ydoedd. Yr oedd yn gymeriad plaen a hoffus, a charedig ei natur. Nid oedd ei well i'w gael am ddal llwynogod, ac am bysgota. Deallai y gelfyddyd i'r dim, ac yr oedd ei enw yn air teuluaidd ar aelwyd pawb yn yr henfro, a'i ddywediadau bachog ar gof llawer o'r ardalwyr. Bu'n gweithio am gyfnod yn chwarel Holland a symudodd bron ar derfyn ei oes i rybela i Benbont y Rhiw, ac yr oedd yn uchel ei barch yno hefyd.

Gweithiai hen rigymwr doniol gerllaw i Robin Sion, a gwnaeth benillion iddo ef a'i lwynogod dof. Dyma ddau ohonynt allan o nifer fawr.

"Os daw rhyw gyfaill am dro o Ffestiniog
Ac awydd arno cael golwg ar lwynog.
Wel, aed i Penllwyn i gael gweled yn hy,
Dri llwynog yn chwarae o gwmpas y tŷ.

Mae'n werth myned yno yn ddiymdroi,
A gweld y llwynogod nad ydynt am ffoi.
Mae'n rhaid fod Robin yn un da am eu bwydo,
Cyn y buasent o'i gwmpas yn prancio."


Yr oedd ganddo enw ar bob un ohonynt, ac yr oeddynt yn gyfeillion gyda'r cŵn a'r cathod.

LAWER blwyddyn yn ôl cynhelid cyfarfodydd yn ein hardal i annog pobl i symud i breswylio oddi yma i Batagonia. Pwnc y dydd yr adeg honno oedd Patagonia!

Bu merch ifanc hardd i oruchwyliwr y chwarel y gweithiai Robin Sion ynddi farw yn sydyn. Aeth yntau fel gweithwyr eraill ato i gydymdeimlo ag ef yn ei alar. Diolchodd yntau a dywedodd, "Mi â wn ei bod wedi mynd i'r nefoedd." "Neu i Batagonia!" meddai R.S.

UN tro aeth a llond basged o wyau ffres at un siopwr, a gofynnodd iddo a wnaethai eu prynu. "Wn i ddim be