Yr oedd William R. Jones (Gwaenydd), mab Robin Sion, yn ŵr hardd o bersonoliaeth ac yn uchel ei barch yn ein hardal. Efô oedd arweinydd Seindorf Bres Gwaenydd, a fuont mewn bri mawr am hir amser. Aeth gydag amryw eraill o'r ardalwyr i'r Wladfa i Batagonia, a gwnaeth enw da iddo'i hun yno.
Un tro, wrth fynd i le neilltuol yno i saethu, a phlentyn bach ei ferch gydag ef, aeth ergyd allan o'r gwn trwy i'r triger daro mewn gwifren wrth iddo fynd trosti. Anafodd yn dost, a dywedodd wrth y plentyn bach "Rhed i nôl dy nain." Daeth ei briod ato yn ei braw wrth edrych arno. Y cwbl a ddywedodd wrthi, oedd, "Hitia befo'r hen gariad, damwain oedd hi."
D.M.
'R wy'n cofio Dafydd Morus
A'i drosol yn ei law,
Dadlwythai'r cerrig trymion
A diwyd rigliai'r baw;
Ac nid oedd neb fel ef mor sionc
I'w weld yn unman ar y bonc.
Preswyliai mewn dedwyddwch,
Mewn bwthyn bychan del,
Ond torrodd ef ei galon
Y dydd y claddwyd Nel;
Ac iddo mwy pa les oedd byw
A'i galon drom o dan ei briw?
LABRWR yn chwarel Holland oedd S.D. Un bore llwythai
y rwbel i'r wagen yn ddiwyd. Disgynnodd dafad dros
ddibyn craig serth at ymyl y wagen, a dihangodd yntau i
ffwrdd wedi dychryn. "Pam oeddet ti yn dianc o flaen
dafad?" meddai y stiward wrtho fo. "Wel," meddai
yntau, "meddwl 'r oeddwn i bod yna yrr ohonyn nhw'n
dwad."