Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Fainc Sglodion.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GWEITHIAI D.T. yn un o chwarelau yr ardal hon. Arferai gymryd sbri ar bnawn Sadwrn tâl. Fel yr âi adref yn feddw un tro, daeth prif oruchwyliwr y chwarel i'w gyfarfod a gofynnodd iddo: "Oes gen ti ddim ofn i rywun dy robio di o dy arian, a thithau yn y cyflwr yma?" "Nac oes wir, Mr. Roberts bach," meddai yntau, "nid rhaid imi ond dweud wrtho mai yn eich chwarel chwi'r ydw i yn gweithio!"

UN tro dywedodd hen gyfaill stori am ei eneth fechan. Yr oedd yn well ganddi gyda'i modryb nag adref gyda'i mam, a cherddai bellter ffordd ati.

Un diwrnod gofynnwyd iddi, "Sut yr wyt ti yn hoffi mynd mor aml i dŷ dy fodryb?" "O," meddai hithau, "y mae ganddi lot o deganau imi i chwarae, ac y mae yn eu cadw ar y silff isaf," meddai hithau.

UN tro penderfynodd gweithiwr gadw buwch, ac un diwrnod aeth i ffair heb fod nepell o'i gartref gyda ffermwr gwybodus i brynu un. Wedi myned ysbaid o ffordd clywodd y ddau ryw fuwch yn brefu'n uchel. "Dyma'r fuwch i mi," meddai'r gweithiwr. "Nage wir," meddai'r ffermwr, "nid buwch a llais sydd arnoch eisiau, ond buwch a llaeth!"

HEN gymeriad doniol oedd O——. Un noson gofynnodd i'w briod a fuasai hi mor garedig a'i helpu ef i'w grogi ei hun. Wel, na wnaf wir mo hynny, gwna dy hun os wyt yn hoffi gwneud." "Wel," meddai'i gŵr drachefn wrthi, "yr wyt ti'n un wael iawn, mi fuaswn i yn dy helpu di i grogi dy hun mewn munud!"

DAETH stiward i felin ar bonc y chwarel yn hwyr un prynhawn. Disgwyliai y chwarelwyr eu partneriaid o'r twll i godi cerrig. Wrth eu gweld yn segur, dywedodd wrthynt fel hyn: "Yr oedd fy ngwraig yn gofyn imi neithiwr pa waith a garwn wneuthur pe rhoddwn heibio