Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Fainc Sglodion.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y gwaith o fod yn stiward. Dywedais innau ar f'union mai mynd i weithio cerrig fel chwarelwr i B.S." "Wel," meddai un o'r hogiau wrtho, "mi fuasai eich gwraig yn beichio crio wrth dderbyn eich cyflog ar nos Wener y tâl!"

Yr oedd hen gyfaill o'r Llan yn arfer mynd trwy gae i ddal y trên yn y bore i fynd i'r chwarel. Er ei syndod un bore yr oedd tarw mawr yn pori yn y cae. Aeth heibio iddo yn ofnus a distaw. Gofynnodd i'w berchennog gyda'r nos a wnai ei roddi mewn cae arall, am fod arno ei ofn. "Wnaiff y tarw bach ddim ond chwarae efo chdi." "Chwarae wir, 'd oes gen i ddim amser i chwarae efo fo yn y bore a minnau yn treio dal y trên i fynd at fy ngwaith!"

AETH dau labrwr diddan o'r chwarel i weithio i'r Sowth. Buont yno am rai misoedd. Prynodd un ohonynt ddau bennog coch i swper. Cadwodd hwynt mewn cwpwrdd yn y tŷ lojin hyd nos drannoeth. Aeth i'r cwpwrdd y noson wedyn, ac un oedd yno! Daliodd ef o flaen y tân, a dywedodd gwraig ei lety wrtho : "Y mae llawer iawn o ddŵr yn dyfod o'i lygad o, Charlie." "Dŵr fuasai yn dyfod o dy lygaid tithau pe buaset wedi colli dy bartner, weldi."

COLLODD un gweithiwr ei briod yn bur sydyn. Gwraig weithgar siriol ydoedd, ac ni fu segurdod erioed ar raglen ei bywyd. Aeth dau o'i gydweithwyr i gydymdeimlo â'r cyfaill yn ei drallod a'i golled fawr. "Wel," meddai un "cawsoch golled amhrisiadwy wedi colli eich annwyl briod." "Do," meddai yntau, "ond yr ydw i wedi ei hinsiwrio hi yn reit dda hogiau bach!"

DECHREUODD O.J., rybela yn y Gloddfa Ganol, ac ymhen ychydig flynyddoedd penodwyd ef yn "Glerc Cerrig." Dringodd i fod yn brif glerc yn swyddfa'r chwarel, ac wedi