hynny yn brif oruchwyliwr. Darluniodd Gwilym Deudraeth ef yn dda yn yr englyn hwn.
Diwyd trwy'i fywyd fu Owen—carai'r
Cerrig er yn fachgen;
Ei brif nod oedd bod yn ben,
Dechreuodd gyda chrawen!
AETH gwraig un hen weithiwr cymeradwy un tro at y meddyg. Blinai rhyw anhwyldeb hi beunydd. Archwiliodd hi, ond ni ofynnodd iddi ddangos ei thafod!" Dywedodd ei bod yn "run down" a bod arni eisiau cael gorffwyso. Pan oedd y doctor yn gwneuthur ffisig iddi dywedodd y wraig, "Meddyliais yn siwr y buasech wedi gofyn imi ddangos fy nhafod ichwi." "Wel, ie," meddai yntau, "rhowch imi weld eich tafod," a dangosodd hithau o iddi. "O," meddai'r doctor, "eisiau mwy o orffwys sydd arno yntau hefyd!"
UN pert ei atebiad oedd J.H. Pan oedd yn codi tatws mewn cae ger y ffordd fawr, gofynnodd hen gyfaill iddo wrth basio, "A oes gennych datws go freision eleni, J.H.?" "Wel," meddai J.H., "y mae'n nhw yn llond eu crwyn."
ANFONODD dyn o B. lythyr at gyfreithiwr ynglŷn ag achosion ariannol rhyw ŵr dyledog. Yn y llythyr gofynnodd, "Beth yw'r eiddo sydd ganddo y gallaf gymryd gafael ynddynt a'u meddiannu ?" Atebodd y cyfreithiwr yn union fel hyn : "Bu farw y dyn yr ymofynnwch yn ei gylch ef a'i eiddo, dros flwyddyn yn ôl. Ni adawodd ddim y medrwch gymryd gafael ynddo, ond yn ei wraig weddw."
WRTH weld C. yn ei drol a mul, yn chwysu wrth fynd a llwyth go drwm o lô i fyny allt y Plas, rhoddodd hen weithiwr help trwy wthio y tu ôl i'r drol. Wedi cyrraedd