i dop yr allt dywedodd C. gan wenu o glust i glust, "Ni fuaswn byth wedi medru cyrraedd hefo un mul. Mae dau yn well nag un."
PAN fwytâi hen weithiwr ddau bennog coch i ginio yn y chwarel adeg y Rhyfel Mawr, dywedodd bargeiniwr pwysig wrtho, "Y mae'r penwaig yna yn denau iawn." "Wel, tenau a fuaset tithau hefyd pe buasai raid iti ddianc o flaen submarines am bedair blynedd!"
Yn y blynyddoedd gynt, byddai llawer o ferched ifainc yn myned o'n henfro i weini i Landudno, ond anodd oedd i fechgyn ifainc gael gwaith i ddechrau rybela yn y chwarelau.
Yr oedd un llanc tua phedair ar ddeg oed wedi bod ym mhob chwarel yn ceisio cael gwaith, ond nid oedd dim i'w gael. Cerddai yno y naill ddydd ar ôl y llall, ond adref y deuai. Wedi iddo gyrraedd adref yn siomedig, dywedodd ei fam wrtho un prynhawn, "Wyddost ti be? y mae gennyf flys rhoddi pais amdanat a dy yrru di i weini i Landudno!"
YR oedd W. yn tyllu gyda jumper ar y graig, ac ymhen spel dechreuodd ei "gorddi," fel y dywed creigwyr. Gwelodd lygoden fawr yn cerdded ar y graig gerllaw iddo, ond yr oedd yn hen gynefin â bod ynghanol llygod! Ymhen rhyw awr teimlodd rywbeth oer ar ei glun, a meddyliodd fod y llygoden wedi mynd trwy waelod ei drowsus, fel y gwelwyd rhai weithiau. Yn ei ddychryn curodd ei drowsus efo coes y morthwyl, ond er ei fraw, canfu mai curo ei watch oedd ym mhoced ei drowsus â wnaeth!
YN yr agor (chamber) nesaf, gweithiai creigiwr â fu am rai blynyddoedd yn oriadurwr yn Lloegr. Addawodd hwnnw ei hymgeleddu, ac fe wnaeth hefyd.
Ymhen rhyw fis gofynnodd, "A ydyw dy watch di yn dal i fynd?" Ydyw, ond bod hi'n ennill tipyn!"