Canaf am 'rhen Olwen annwyl,
A "P'le'r Aeth yr Hen Amen?"
Ac mi ganaf ar yr aelwyd
Gyda Sallie hoff a Gwen;
Canu wnaf" "R wy'n mynd i rywle,"
Waeth os â y byd yn ddellt,
Mi a ganaf doed a ddelo
Am y "Bwthyn Bach Tô Gwellt."
BYDDAI amryw o'r hen weithwyr yn y blynyddoedd gynt wrth eu bodd yn cymryd ambell lasiad o'r "cwrw melyn bach," chwedl hwythau. "Gwlychu ei bîg," oedd y geiriau a ddywedid am hyn ganddynt. Dwywaith yn y mis y derbyniai y gweithwyr eu cyflogau flynyddoedd yn ôl, cael dwybunt o sub, a thelid y gweddill ymhen pythefnos. Byddai yn dlawd eu byd ar lawer cyn Sadwrn y tâl mawr.
Dyna oedd hanes R, hen chwarelwr diwyd a medrus, ac un noson cynlluniodd i gael ychydig arian i gael diod. Aeth i'w gwt ieir gan gludo "ceiliog coch" tew dan ei gôt oddi yno, a gwerthodd o i siopwr yn y Blaenau, a chafodd dâl amdano. Hongiodd y siopwr o ar fachyn y tu allan i'w siop. Ymhen ysbaid o amser wrth fynd heibio ar yr heol gwelwyd y ceiliog gan ferch y gwerthwr, ac wedi holi y siopwr cafodd wybod mai ei thad a'i gwerthodd iddo. Wedi mynd adref dywedodd wrth ei mam am y darganfyddiad a chwarddodd y ddwy yn braf.
Cyrhaeddodd yr hen weithiwr adref yn hapus, ac aeth i'w wely heb gymryd swper.
Wedi iddo gysgu'n drwm, aeth ei ferch i'r cwt ieir a daeth a cheiliog arall oddi yno, a dododd ef mewn basged gaeedig a rhoddodd hi o dan wely ei thad.
Ar doriad y wawr canai y ceiliog dros y tŷ, a chredai'r hen gyfaill fod y ceiliog a werthodd wedi adfywhau. "Cydwybod euog, cydwybod euog," meddai, "dyma fi wedi cael fy nal fel Pedr gynt."