HEN gyfaill cymwynasgar, a gweithiwr caled, oedd H. Nid oedd ball ar ei ddiwydrwydd, er hynny cyflog bychan a enillai. Methai llawer fel yntau â chael y ddau ben llinyn ynghyd. Amser caled yn y chwarel ydoedd tua deugain mlynedd yn ôl.
Prynodd H. ryw ddilladau gan Mr. Packman, ond anniben ydoedd i dalu amdanynt. Addawodd ymorol o ddifrif i dalu, ond bychan oedd ei gyflog. Blinodd Mr. Packman, ac anfonodd ato i ddweud wrtho ei fod am fynd a'i achos i'r Cwrt Bach.
Wedi hynny teimlai yn bur ddigalon, a chan na fedrai ysgrifennu ei hun, gofynnodd i hen gydweithiwr ysgrifennu llythyr drosto at Mr. Packman. Gwnaed hynny gan egluro mor galed oedd ei fyd, ac addawodd dalu bob dimai.
Beth wnaeth y cydweithiwr direidus ond rhoddi cusanau (X X X X X) i Mr. Packman ar waelod y llythyr!
Bobol annwyl! Ymhen tridiau aeth Mr. Packman i dŷ y dyledwr gyda'r llythyr, a dywedodd yn ffyrnig wrtho, "Look here man, I don't want your kisses, I want your money." Ni wyddai yr hen gyfaill druan ddim amdanynt, a chwarddodd yn braf, a chwarddodd Mr. Packman hefyd wedi clywed yr hanes, a rhoddodd dri mis o amser i dalu iddo.
Pan ddaeth H. i'r chwarel drannoeth adroddodd yr hanes, a dywedodd na wnaeth dim erioed dalu yn well iddo ef na'r "Kisses!"
HEN wladwr rhadlon braf oedd M. Un tro aeth gyda gweithwyr eraill o'r fro i Sasiwn Bangor. Cafodd wahoddiad i gael te gyda hen flaenor duwiol. Wedi paratoi y bwyd ar y bwrdd dywedodd priod y blaenor wrtho, "Dowch a'ch cadair at y bwrdd a wnewch chwi ddechrau hefyd os gwelwch yn dda?"
"Gwna neno'r tad," gan ddechrau arni o ddifrif, "a mi fwytâf fel pe buaswn adref hefyd," meddai.