J.J.
Wr hynaws, dy fwyn dirioni—a ddeil
Trwy'r dduloes o'th golli ;
Gwlad wen uwch tân—belenni,
Yn ddi—staen gyrhaeddaist ti.
ENWAU'R HOGIAU.
Enwau ein hogiau glanwedd—a erys
Mewn hiraeth a symledd;
O helynt brwnt dialedd
Eu llwch hwy gaiff bellach hedd.
BONEDDWR.
Hen drempyn gwael ei olwg
Oedd ef yng nghyfri'r byd,
Yn gwerthu rhyw fân nwyddau
A chanu ar y stryd.
Nid oedd ei gân yn swynol
Crynedig oedd ei lais;
Ond tystiai'i wedd anghenus
Mai cywir oedd ei gais.
I mi boneddwr ydoedd,
Er nad oedd ganddo 'stad;
Oni safodd ef yn bennoeth
Pan basiodd corff fy nhad?
CWPLEDAU GAN IOAN BROTHEN.
Cesglais rai o'r llinellau hyn lawer blwyddyn yn ôl, a chafodd Ioan Brothen eu gweled pan oedd ar fy aelwyd un o'r troeon diwethaf y bu yma. Cefais ychwaneg ganddo wedyn a chaniatâd i wneuthur defnydd ohonynt.
UN o'm cyfeillion gorau oedd ef, ac awdur y gyfrol brin
o englynion "Llinell neu Ddwy." Un o werinwyr mawr