Cymru ydoedd, a labrwr yn chwarel y Rhosydd am flynyddoedd lawer. Dyma ychydig linellau o'i waith a ddywedodd wrth ei gydweithwyr o dro i dro. Un prynhawn gofynnodd y prif oruchwyliwr iddo a fuasai yn mynd i hel brwyn iddo. Aeth yntau heb ym- droi, a phan oedd yn dyfod allan o'r lefel fawr i olau dydd, gofynnodd gweithiwr iddo, "I b'le yr wyt yn mynd ?"
"Af i'r haul braf i hel brwyn," meddai yntau.
WEDI iddo gael caniatâd i fynd adref cyn i'r gloch ganu, dywedodd fel hyn wrth y stiward a safai ar ben llwybr y chwarel:
"Ga'i basio, dw' i'n ddyn go bwysig,"
a dywedodd wedyn:
"Pasio raid waeth pwy sy' ar ôl,
Nid yn araf ond yn wrol."
WRTH weld gweithiwr go dal yn brasgamu ar bonc y chwarel, gofynnodd fel hyn:
"Paham mae'r cawr o fawr faint
Yn brasgamu mewn brys gymaint?"
WEDI cyfarch gwell i'w gydweithwyr un bore, gofynnodd i Richard Evans, Ty'nddol,
"Ty'n y ddôl wyt ti'n o dda?"
Ni wnaeth lawer o gyflog am ddeufis neu dri yn olynol, a dywedodd:
"Anodd ydyw byw a bod
A llwgu 'nghanol llygod."
CANMOLAI un gweithiwr ei ddillad gwynion,-cot liain wen, a throwsus ffustian gwyn, ond dillad brethyn a wisgai Ioan am ysbaid a dywedodd:
"I weithiwr mae hen frethyn
Yn llawn gwell na lliain gwyn."