WRTH basio yn y trên drwy Lan Dyfi un tro, dywedodd:
"Ochain wyf, O! na chawn i
Glun dafad yn Glan Dyfi."
WRTH ddyfod o'r Penrhyn yn y trên bach i'r Blaenau gwelodd lawer o pheasants ym Maentwrog, a dywedodd wrth gyfaill fel hyn:
"Diamau frawd, dyma fro
I ieir pheasants orffwyso."
Yr oedd hen wraig dduwiol o Lanfrothen yn bur wael lawer blwyddyn yn ôl, a gweddiodd gŵr duwiol drosti yng nghapel Siloam. Wrth wrando arno troes Peter Roberts at Ioan Brothen, a gofynnodd iddo, "Ai dal i waelu mae Doli William ?" ac meddai Ioan Brothen, Na, mae'n gwella, medda mam."
PAN oeddwn gydag ef mewn cerbyd agored, yn angladd brawd i'w briod, rhedai rhyw hogyn bychan gyda'i "gylch a bach," wrth ymyl y cerbyd. Gofynnwyd yn garedig iddo gilio rhag iddo gael damwain. Cododd Ioan Brothen o'i sedd a gwaeddodd arno,
"Tyn dy draed o tan dy drwyn
I rywle rhag yr olwyn."
Ufuddhaodd ar unwaith.
WRTH benodi rhai yn aelodau o ryw bwyllgor un tro, enwodd un gweithiwr dri o'i berthynasau, a galwodd cyfaill i Ioan Brothen ei sylw at hyn, a dywedodd linell fel dihareb:
Gwaed âch sy'n dewach na dŵr.
ANGHOFIODD un o weithwyr chwarel y Rhosydd am ddyfod a'i dun bwyd gydag ef un bore. Adeg cinio