rhoddodd ei gydweithwyr ran o'u bwyd iddo, ac wrth estyn brechdan o fara a menyn iddo dywedodd Ioan Brothen fel hyn:
Gywilydd do, gwelodd dyn
Iesu Grist eisiau'i grystyn.
CYFAILL calon i Ioan Brothen oedd Peter Roberts, y
Gof, a gweithiai y ddau ŵr diwylliedig yn chwarel y
Rhosydd yr un adeg, a phreswyliai y ddau yn Llanfrothen.
Dyma englyn o waith Peter Roberts.
YR HAF.
Er ei lond o ryw lendid-dihafal
A'i dyfiant cynhenid;
Ni bu haf heb ei ofid,
Edwinai rhai dan ei wrid.
Englynion gan "Bob John, Tanrallt"
UN o englynwyr gorau ein hardal ydyw Mr. Robert John Roberts, Tanrallt, ond a enwir gan ei gyfeillion "Bob John, Tanrallt." Chwarelwr medrus fu ef am lawer blwyddyn ond symudodd o'i henfro i breswylio i Lerpwl ac yno y mae yn ŵr uchel ei barch. Cyfaill rhadlon braf a'r mwyaf diwenwyn yn y byd ydyw. Dyma ychydig o'i waith.
CYNILO.
Os o'i bres y lles gâr llanc,-aneled
I'w cynilo'n ieuanc;
A chofied pob merch ifanc
Y tyfa'r bunt hefo'r banc.
RHANNU BAI.
Dau elyn llawn dialedd-a waedwyd,
Ond wedi'r gelanedd,
Dau arwr roed i orwedd
A rhannu bai'n yr un bedd.