llifiau, Pwnshio Strap, Pass-by, Ponc, Powdro, Pegio, Pwyso, Pwyswr, Rwbel, Rybelwr, Rwbel naddu, Rwbel hollti, Rhiglo, Rhiglwr, Rhuglo'r Injian, Saethu, Slip- iau, Smotiau llaeth, Sawdl y graig, Smit, Stolpyn, Sist, Sub, Smitio, Sincio, Siafft, Stolpio, Slont, Stampio, Silff, Siamber, Stwffwl, Snyffyn, Stagro, Stem, Sâ-draw, Tanio, Tyllu, Twll-hollt, Twll-pileru, Traed, Turn-out, Twll Plwg, Torri Ffos, Torri Ochor Rydd, Torri Cefn, Torri Bôn, Torri Bwlch, Tomen, Traffic, &c., &c.
BRAWDDEGAU LLAFAR GWLAD A GLYWIR GAN CHWARELWYR EIN HENFRO.
Rhedeg ar ei hôl hi; Yn pydru mynd; Yn bwrw drwyddi; Wedi cadw'i ben y mis hwn; Ddoe ddwytha'n y byd; Llythyr heb ei agor ydyw yfory; Rhoddi ei gerrig i fyny; Tros ei ben a'i glustiau mewn gwaith; Tynnu'r bwrdd o'i afael; Rhoddi'r bwrdd yn ei afael; Mor ddigywilydd â wagen gynta'r run: Yn wlyb domen dail; Mae deilen at bob dolur; Mewn byd yn mynd a'r wagen; Wedi codi arno; Talu'n ddrud am ei ddysgu; Yn clensio'r gwirionedd adref; Waeth dweud wrth garreg a thwll ynddi; Mae'r Moelwyn yn gwisgo'i gap; Fel naid y gannwyll; Fe ddaw hi ato yntau rhyw ddydd Gwener; Yn siarad fel injian hogi; Cnuf y ddafad farw; Yn chwysu wrth hel beiau; Yn gogr-droi wrth ffidlan; Bob yn ail y mae'r dail yn dod; Yn bwrw glaw fel o grwc; Claddu'r sgwrs o dan garreg yr aelwyd; Y fuwch uchai'i bref sydd brinna'i llaeth; Un sâl ar y naw; Dyn di-afael; Yn gweld dim pellach na'i drwyn; Rhoi caead ar ei biser o; Bwyta gwellt ei wely; Yn denau fel bran; Fel cath yn llyfu'r pentan; Slediad fel gwêr; Cerrig caled fel haearn Sbaen; Cerrig fel tywyrch; Hen garpan o slediad sâl; Cerrig mân fel tatws; Ar gefn ei geffyl; Gafael mochyn; Ffraeo fel
dau dincer; Rhaid cael golau dydd i bigo brethyn;