Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Fainc Sglodion.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae ei ben mor galed a chneuen wag; Mae gan foch bach glustiau mawr; Os glaw ddydd Sadwrn—glaw at yr asgwrn; Curo haearn poeth â morthwyl pren; Dyn a adweinir wrth ei waith; Ceiniog annheilwng a aiff â dwy gyda hi; Bore i bawb pan godo; Goleuo dau ben i'r gannwyll; Mynd yn araf fel hers mewn cynhebrwng; Yn ddigywilydd fel talcen tas; Mynd a'r maen i'r wal; Yn well na'i olwg; Yn berwi o slipiau; Yn grych i gyd; Mor oer â chynffon oen; Mor ddwl â hesbwrn; Fel pen dafad; Fel lleuen ar gast-steel; Crefydd gwadnau traed; Dal ar ei linyn ; Yn blwmp ac yn blaen; Dim dyrnaid o bobl yno ; Ei gar ar ei gefn ; Darllen rhwng y llinellau; Rhywbeth yn debyg; Menyn â blas hir hel arno; Gorau eli—menyn gwyrdd; Dyn a'i lygaid yn ei ben; Yn chwipio rhewi; Fel haul mis Mawrth; Dim gylfiniad o de; Yfed o ar ei dalcen; Siarad pymtheg yn y dwsin, &c., &c.

CREITHIAU.

Codi ar las y wawr a mynd i'w deithiau
Gan ddringo i'r bonc ar hyd y llwybrau llwyd;
Wrth dorri ar y llechwedd ddyfnion greithiau
Fe droir y creigiau glas i'r plant yn fwyd.
Cadarn ei law wrth drin yr ebill miniog,
A chwim ei fraich wrth daro â'r morthwyl harn;
Damweiniau'n oedi'n gyfrwys ar y rhiniog
Pan chwelir seiliau'r mynydd bob yn ddarn.
Pan dery'r graig yn ôl a naddu rhychau
Ar ruddiau rhadlon y chwarelwr clên,
Erys y gro'n dameidiau megis brychau
Lle gynt bu heulwen a hudoliaeth gwên;
Heddiw mae'r creigiwr dewr a'r Moelwyn maith,—
Dau a fu gadarn,—dan eu bythol graith.

T. E. NICHOLAS.