Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Fainc Sglodion.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

WILLIAM JONES, BRYNAWEL.

UN o'r dynion rhagoraf a fu'n gweithio mewn chwarel erioed oedd Mr. William William Jones, Brynawel. Ar lafar gan y gweithwyr gelwid ef yn "William Jones, Brynawel."

Braint fawr imi oedd cael gweithio am flynyddoedd ar yr un bonc ag ef. Ganed ef ym Mhenlan, Trawsfynydd, ar Chwefror 16, 1853. (Ym Mhenlan y ganed Hedd Wyn hefyd ar Ionawr 13, 1887). Bu farw William Jones, Mehefin 30, 1920. Yr oedd fel brenin urddasol ar bonc y chwarel, ymhlith y gweithwyr. Gwisgai ddillad glân a thrwsiadus,-gwasgod liain wen, a throwsus melfared gwyn. Un gweddol dal ydoedd, yn meddu ar bersonoliaeth hardd, wyneb glandeg, siriol, a dau lygad treiddgar. Parchai bawb, a chyfarchai bob gweithiwr wrth ei enw yn llawn. Ni fu neb yn ail iddo am ysgwyd llaw. Ni fu pall ar ei garedigrwydd i rybelwyr oedran- nus a hogiau bach di-gefn, ac eraill hefyd. Rhannai y clytiau gorau a feddai iddynt. Galwyd ef droeon i setlo rhai cwerylon, a meddai ar y ddawn i wneuthur hynny mewn ffordd ddoeth. Byw crefydd a wnaeth ef, ac nid sôn amdani byth a beunydd. "Ynghanol ffryd- lif bywyd y gwelir cymeriad dyn ar ei orau," meddai Goethe, a gwir oedd hynny am William Jones.

Yn y flwyddyn 1895 bu swyddogion y Llywodraeth yn gwneuthur ymchwiliad ynglŷn â llech-chwarelau Sir Feirionnydd. Cyhoeddwyd swm y cyfan gyda llyfrau glas y Llywodraeth. Holwyd amryw o brif-oruchwylwyr gwahanol chwarelau, meddygon ein tref, arolygwyr y mwyngloddiau, a chreigwyr, a chwarelwyr. Pwyswyd am gael awgrymiadau er lles y gweithwyr yn gyffredinol rhag i ddamweiniau ddigwydd, ac er lles eu hiechyd yn y chwarel. Y mae'r cwestiynau a'r atebion yn werth eu darllen heddiw yn y llyfr pwysig. Rhaid oedd cael dyn gwrol i roddi yr awgrymiadau yn y cyfarfod, gan ei bod yn

gyfnod caled ar y gweithwyr yr adeg honno. Yr oedd yn