Tua 48 awr yr wythnos i rai yn y melinau, ac o dan y ddaear—creigwyr, labrwyr, ac eraill.
Pa faint o oriau a weithir gan geffylau?
Wn i ddim, ond credaf y cânt fwy o orffwys na'r gweithwyr.
Beth arall a hoffech ei ddweud?
Gallaf ddweud fod llawer o welliannau wedi eu gwneuthur er pan ddechreuais weithio, yn enwedig yn y lleoedd i weithio ynddynt.
Cyflawnwyd llawer o awgrymiadau William Jones yn y chwarelau erbyn heddiw, a gwneir rhywbeth newydd beunydd yno er lles iechyd y gweithwyr. Heuodd W.J., a gweithwyr eraill hefyd, yr had da yn y blynyddoedd gorthrymus gynt, a mêd chwarelwyr ein cyfnod ni o ffrwyth eu llafur yn ehelaeth.
Nid gŵr meddal, gwlanennaidd ydoedd, ond dyn cadarn,
gwrol dros iawnderau ei gydweithwyr. Gallai ddweud
geiriau â min arnynt pan fyddai eisiau hynny. Dyma un
enghraifft. Gofynnodd un swyddog pwysig (a oedd ar
fin ymddeol o'r chwarel) iddo fel hyn yn wawdlyd:
"Pa bryd yr ydych am ddechrau gweithio wyth awr yn
y chwarelau, William Jones?" Atebodd yntau fel
hyn, "Pan fydd ambell ormeswr i'r gweithwyr wedi
diosg y fantell."
BEDDARGRAFF HEN CHWARELWR I'W BRIOD.
Mewn priddyn dyffryn diffrwyth-y gorwedd
Dan garreg yn esmwyth
Alis, a phump o'i thylwyth,
Yma y mae mam i wyth.—MEURIG ELEN.
PROFIAD HEN WEITHIWR.
Mae eisiau byw am oes y byd-arnaf
Bob diwrnod yn hyfryd;
Ond yntau angau o hyd
Ei fysedd ynof esyd.—Moelwynfardd.