GŴR diwyd gyda'i orchwyl oedd B. Ym mlynyddoedd olaf ei oes cliriai rwbel bras ym Melin MNodyn:Br. Ni fu ball ar ei ffyddlondeb gydag achos crefydd, a meddyliai y byd o'i swydd fel Ceidwad y Porth yn y capel bach! Gwnaeth ei weinidog, y Parch. R. R. Morris, gân goffa dda amdano.
Dyma y llinellau diwethaf ohoni :
Rhyw gwch oedd dy feddwl, un bychan gwyn,
Ond cludai drysorau o Galfari fryn.
Hwyliai'n ddi-orffwys o fore hyd hwyr,
Am olud ei elw, 'd oes undyn a ŵyr.
Ti ddeliaist i'w hwylio hyd derfyn dy oed,
Ac os oedd yn fregus ni suddodd erioed."
UN O Lanllyfni oedd R.O., a daeth i weithio i chwarelau ein hardal yn ŵr ifanc. Yr oedd yn chwarelwr campus, a byddai yn yr un cywair wrth weithio cerrig da a rhai sâl. Magwyd ef yn y seiad, a bu yn ffyddlon yn y capel, a gwnaeth ei ran gyda phob achos da. Ar garreg ei fedd ceir y llinellau hyn :
"Does neb ond Un all brisio'i ddiwrnod gwaith.
'Does neb ond Un all dalu iddo chwaith."—R.R.M.
PREGETH ar "Ddameg yr Heuwr" a gafwyd un nos Sul yn Nhan-y-grisiau. Y nos Lun canlynol aeth y Parch. Samuel Owen i ymweled â hen wraig a hithau wrthi yn darllen ei Beibl. "Beth ydach chwi'n wneud Catrin Dafis?" gofynnodd iddi. "O," meddai hithau, "rhoi tipyn o bridd ar yr had yr oeddwn i."
Y SUL cynt bu pregethwr yn dweud geiriau plaen a chwerw wrth aelodau eglwysig. Dywedodd Catrin Dafis fel hyn wrth S.O.,—" Bu D yn pregethu y Sul diwethaf gyda ni, ond ni wnaeth o ddim ond taflu dŵr poeth am ein pennau."