cystadleuaeth am areithio yn fyrfyfyr. "Y drwg o redeg i ddyled " oedd y testun, ac Alafon yn beirniadu. Wedi i bedwar ymgeisio, aeth llanc tal a glandeg ymlaen i'r sêt fawr a dywedodd braidd yn hunanol, "Yr ydwyf i yn dal swydd go bwysig, ac mewn cyfle da i adnabod yr adar duon' yma," &c., &c. Wrth feirniadu, dywedodd y beirniad, "Am y llanc a ddywedodd ei fod yn adnabod yradar duon' yma, pwy a ŵyr tybed, nad aderyn du pig-felyn ydyw ef ei hun!"
YN adeg gwneuthur y Twnel Mawr rhwng Dolwyddelan a Blaenau Ffestiniog, penodwyd rhai i wylio'r siafftiau a âi iddo o wahanol leoedd. Gwyliai hen frawd o Tal- waenydd un o'r siafftiau hyn ar ddydd Sul. Rhoddwyd ef ar y carped gan y Parch. David Roberts, y Rhiw, a'i flaenoriaid yn ei eglwys. Dywedodd Mr. Roberts wrtho, "Chwi a wyddoch o'r gorau T.H., nad ydyw yn beth iawn arnoch wylio'r siafft ar y Sul a derbyn tâl am eich gwaith, a chwithau yn aelod eglwysig gyda ni yn y Rhiw. Gofynnaf ichwi beth ydych am wneud-bod yn aelod ynteu gwylio'r siafft?" "Wel wir, Mr. Roberts bach," oedd ei ateb, "credaf mai gwylio'r siafft sydd wedi talu orau imi."
UN go danbaid ei dymer, ond hollol ddiragrith, oedd D.J. Un tro dewiswyd ef yn arolygwr yr Ysgol Sul yng Nghapel y Methodistiaid. Ar ddechrau ei
ei dymor gadawodd amryw athrawon eu dosbarthiadau, a myned yn ddisgyblion i'r dosbarthiadau a arferent fynychu. Yr oedd tua hanner dwsin mewn un dosbarth. Aeth D.J. atynt a gofyn iddynt bob yn un ac un a aent yn athrawon ar wahanol ddosbarthiadau. Wedi i bob un ei wrthod dywedodd, "Wel, 'd oes gennyf ddim i'w wneud ond mynd i chwilio am rai i'r Capel Sentars!" Ar hynny dyma bob un yn ufuddhau.