Os y gweithi di ar honno
Nes y daw dy oes i ben,
Byddi'n falch o'th bapur setlo
Pan ei di tu hwnt i'r llen!
CHWARELWR medrus, a threfnus gyda'i waith oedd G.. Yr oedd yn wleidyddwr mawr ac yn ddarllennwr ar lyfrau da. Mynychai y capel yn ffyddlon, ond ym mlynyddoedd olaf ei oes yr aeth yn aelod eglwysig, a bu yn aelod defn- yddiol. Pan wrandawai ar y plant yn dweud eu had- nodau mewn seiad noson-waith un tro, gofynnodd y cwestiwn canlynol iddynt : "A fedrwch chwi ddweud wrthyf y 'mhlant i, paham y mae defaid sydd yn pori yr ochor yma i'r Moelwyn yn uwch eu pris yn y farchnad, na'r rhai sy'n pori yr ochor yma i'r Manod?" Meth- asant ei ateb, a dywedodd yntau wrthynt: "Am eu bod yn cael haul y bore! Yr ydych chwithau yn cael haul y bore wrth ddyfod i bob moddion i'r cysegr, a chofiwch chwi mai hwnnw sy'n rhoddi gwrid i'ch gruddiau, fel y gwna i afalau. Druan ohonof fi, gwrthodais i wneud defnydd o haul y bore, ond da gennyf gael haul y pryn- hawn!"
UN o ddynion galluocaf ein hardal oedd R, pregethwr a hynafiaethydd da. Gweithiodd am gyfnod byr yn y chwarel, ond cefnodd arni ac aeth i'r Coleg a gwnaeth ei farc yno. Yr oedd un arferiad od yn perthyn iddo,- swniai y llythyren "s" ar ddiwedd rhai geiriau. Pan bregethai un tro mewn Eglwys Saesneg dywedodd y frawddeg hon ar ei weddi:
"O Lord, preserve us in the Spirits!"
DYWEDODD hogyn ei adnod mewn seiad noson waith yn Nhanygrisiau un tro. Anghofiodd ymolchi ei wyneb cyn cychwyn i'r capel. Wedi iddo ddweud ei adnod, dywedodd hen flaenor duwiol wrtho fel hyn: "Dywedaist dy adnod yn llawn cystal a'r un esgob, ond biti bod dy wyneb