WRTH sôn un prynhawn Sul am "lawenydd" gofynwyd beth ydoedd. "Rhywbeth yn dyfod heb ei ddisgwyl," meddai hithau. "Pan fyddwn i ers talwm yn edrych ymlaen am ddiwrnod i fwynhau fy hun, hwnnw fel rheol a fyddai'n troi yn ddydd annifyr iawn. Ar ddiwrnod arall pan fyddwn yn ddi-awydd i fynd i ffwrdd, byddai pethau yn troi'n wahanol wedi imi fynd."
"Beth ydych yn feddwl o lawenydd yn yr adnod hon— 'dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd ?" "O! rhyw le a llawer o gynhesrwydd ynddo ydyw, fel 'tasech chwi wedi eich lapio mewn gwlanen gartre!"
CYDWYBOD oedd pwnc y drafodaeth un tro, ac wedi holi a chael atebion reit dda, credai Mary Jones nad oedd cydwybod yn arweinydd diogel bob amser. "Byddai un hen frawd yn arfer dweud," meddai hi, "fod cyd wybod ambell ddyn yn ymestyn fel elastic!"
LAWER blwyddyn yn ôl diarddelwyd geneth ifanc o un o eglwysi'r fro. Y noson wedyn aeth ei mam at un o'r hen flaenoriaid, gan ei dafodi, a dweud, "Hen gnafon drwg sydd yn dy gapel di." "Hitia befo," meddai'r hen frawd, " y mae ynddo lai o un ar ôl neithiwr!'
ARFERAI un hen gymeriad diddan gymryd glasiad, ac ar rai adegau âi ar ei sbri am lawer o ddyddiau. Wedi gorffen ei sbri, addawai fod yn' hogyn da,' chwedl yntau, a mynd i berthyn i'r capel. Mynd a dyfod oedd ei hanes, ac amdano un tro dywedodd Elfyn fel hyn:
I dŷ Dduw'r annuw di-rôl—hwn a ddaw
Yn ddyn edifeiriol;
Ond i'w hen ffau neidia'n ffôl,
Newydd ddwad yn dduwiol!
WEDI treulio llawer o flynyddoedd yn Neheudir Cymru, fe ddaeth hen bâr cymeradwy yn ôl i'r ardal i breswylio. Effeithiodd llwch y glo yn drwm ar iechyd yr hen frawd.