Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Fainc Sglodion.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Magai ychydig o ieir i'w ddifyrru ei hun. Un noson fe ladratawyd rhai ohonynt. Wrth weddio mewn cyfarfod gweddi noson waith ymhen rhyw wythnos wedyn can- molodd ei Waredwr, a dywedodd: "Yr wyt Ti yn Hollalluog, ac yn Hollwybodol! Fe wyddost Ti yn iawn, O! Arglwydd, pwy a ddwynodd fy ieir," a chan daro ei ddwrn ar y pulpud bach, gwaeddodd dros y festri: "Y mae gen innau' guess' weldi!"

GOFYNNODD Y Parch. Samuel Owen i hen frawd yn y Seiad yn Nhan-y-grisiau: "A fyddwch chwi yn arfer a gweddio yn y dirgel E.J.?" "Wel" meddai'r hen frawd "pe buaswn yn dweud wrthych fy mod yn arfer gwneuthur hynny buaswn yn gweld fy hun yn debyg i iâr yn clowc- ian wedi bod yn dodwy!"

PAN oeddwn yn hogyn pedair ar ddeg oed, ac yn rybela ym Melin Pen Bont, y Rhiw, gwyddwn am hen frawd diddan o rybelwr. Yr oedd yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Wesleaid yr adeg honno. Pwnc y dydd yn ein henfro ar un adeg oedd " Fall" fawr y Rhiw, sef cwymp darn mawr o fynydd, a defnydd llechfaen gwych ynddo ambell dro. Un tro wrth bregethu gwaeddodd yr hen frawd, "Beth ydyw fall' fawr yr Iachawdwriaeth, wrth ymyl fall' fawr y Rhiw?"

YNG nghyfnod Rhyfel De Affrig, darllenid yr hanes mewn newyddiadur ar amser cinio yn y Ciniawdy. Un tro gofynnwyd i'r hen frawd, "Ym mh'le mae y Penrhyn Gobaith Da yma?" "Wel, wn i ddim, a 'dydw i erioed wedi darllen llyfr Taith y Pererin' yna!"

PREGETHWR cynorthwyol gyda'r Methodistiaid Calfin- aidd oedd H.W., a gweithiai fel creigiwr yn Chwarel Holland ar un cyfnod. Yr oedd yn bregethwr da ac yn ddarllenwr mawr. Mewn Seiad noson-waith un tro, gofynnodd i lanc ifanc, a oedd ganddo adnod ar ei feddwl.