Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Fainc Sglodion.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi tawelwch mawr, gofynnodd iddo beth oedd yn ddarllen? Papur Newydd," meddai yntau. "Felly wir, y mae lliw y dail ar y lindys!"

YR oedd H.W. yn codi cerrig gwenithfaen o graig neill- tuol i adeiladu tŷ yn y Llan. Un tro yr oedd wedi tanio, a darnau o gerrig yn gwibio fel brain yn yr awyr. Aeth gŵr ato yn chwyrn gan ddweud, "Pam na fuasech chwi yn gweiddi 'Enbyd,' 'Enbyd,' H.W.?" "Gweiddi 'Enbyd' frawd, yr ydwyf yn gweiddi Enbyd' uwch dy ben o bulpud Peniel ers blynyddoedd, ac yr wyt fel adamant!"

YR oedd H.W. i bregethu un Sul yn Nhan-y-grisiau, ond trwy ryw gamgymeriad daeth un o'r "hoelion wyth" yno hefyd!

Pan ofynnwyd i H.W. roddi cyfle i'r pregethwr mawr gael pregethu ei hun, dywedodd, "Y mae y diafol yn gryf iawn yn Nhan-y-grisiau, a gellwch fentro gadael inni daro dwbwl hand' ar ei gefn heddiw," ac felly y bu.

PREGETHWR cynorthwyol oedd H.M. hefyd. Cerdded i bobman y byddai ar y Sul. Tebyg ydoedd i J. R. Jones, Ramoth, fel y dywedodd Robert ap Gwilym Ddu:

Wr enwog ni farchogai Eithr ar droed erioed yr âi."

Gwan oedd yr achos yn y capel bach. Byddai H.M. yn myned i gasglu arian ato at wahanol bobl. Un tro aeth at berson y plwyf a chafodd groeso mawr. Wrth droi adref dywedodd y person wrtho: "Welwch chwi H.M., go ychydig sydd ohonoch yn y capel bach. Waeth i chwi ddyfod atom ni i'r Eglwys, y mae gennym ddigon o le i chwi i gyd." Atebodd yr hen frawd fel hyn: "Welwch chwi, Mr. Person, y mae digon o le i bawb yn Uffern, ond nid oes neb yn fodlon mynd yno chwaith!"