Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Fainc Sglodion.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YN adeg Diwygiad 1904-05, bu llawer yn canu a gorfoleddu am nosweithiau yn ein henfro. Dywedodd un gŵr wrth hen frawd diddan: "Y mae llawer y dyddiau hyn yn marw i bechod." "Wel," meddai yntau, yr ydw i yn meddwl mai cael ffitiau y mae y rhan fwyaf ohonynt."

ARFERAI hen chwaer ddweud yr un adnod bob tro yn y Seiadau yn Nhan-y-grisiau. "Oes gennyt adnod i'w dweud, Sian?" meddai S. Owen wrthi un tro. Oes," meddai hithau, "Gwir yw y gair ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i'r byd i gadw pechaduriaid o ba rai y pennaf ydwyf fi." Dywedodd yntau wrthi: "Mae yn dda iti mai gwirionedd ydyw yr adnod yna neu buasai yn dyllau ers llawer dydd."

UN drom ei chlyw oedd B, ond un o ffyddloniaid eglwys Bethel er hynny. Un noson dywedodd S.O. wrthi: "Yr ydych mor ffyddlon â'r un aelod ymhob cyfarfod yn yr eglwys er nad ydych yn clywed dim. Beth ydych yn ei gael yma?" "O! yr ydw i'n c'nesu wrth rwbio yng ngwlân defaid Iesu Grist, Mr. Owen bach!"

NOSON bwysig yn y capel yn y blynyddoedd gynt oedd nos Sul talu y "tro mis," sef talu cyfran o arian at y Weini- dogaeth. Eisteddai dau hen flaenor yn y sêt fawr i dderbyn yr arian gan yr aelodau. Rhaid oedd i bob aelod dalu drosto'i hun. Un tro aeth llanc trwsiadus ei wisg a glandeg ei wedd ymlaen i dalu, ac estynnodd bisyn tair ceiniog gwyn iddynt. "Bobol annwyl!" meddai un o'r hen flaenoriaid, "ai pisyn tair wyt ti'n roddi at yr Achos Mawr? Y mae gen ti giw-pi hanner coron!"

WEDI gorffen pregethu un nos Sul gofynnodd y pregethwr y cwestiwn hwn-" A wna pob un ohonoch a hoffai fyned i'r nefoedd godi ar ei draed." Cododd y gynulleidfa i gyd ag eithrio un hen frawd. Dywedodd y gŵr a eisteddai yn y sedd tu ôl iddo, "Mae'n well ichwi godi, D.J., yn lle