bod yn od i bawb." Ac ebe yntau, "Gad lonydd imi, Ifan; wyt ti'n meddwl mai efo rhyw sgyrsion fel hwn yr ydw i am fynd i'r nefoedd!"
ARFERAI hen gyfaill calon imi gludo pregethwyr ar brynhawn Sul i gapel bach a oedd o dan nawdd eglwys fawr. Un tro cludai bregethwr mawr pwysig yn ei farn ei hun. Mewn ffermdy y caent de ar ôl mynd o'r capel, ac yr oedd y ffermwr yn flaenor. Arferai ef bob blwyddyn wedi cael "Llyfr y Cyhoeddiadau," roddi croes (x) ar gyfer enw pob pregethwr sâl yn ôl ei farn ef a ddeuai i'r capel bach. Eisteddai y pregethwr mewn cadair esmwyth wrth y tân, a phan hwyliai gwraig y ffermwr y bwyd ar y bwrdd, cydiodd ef yn Llyfr y Cyhoeddiadau a hongiai gerllaw iddo ar y mur. Wedi gweled y croesau ar gyfer enwau rhai pregethwyr, gofynnodd i'r wraig pa beth a arwyddent. "O," meddai hi, "y rhai yna ydyw y pregethwyr salaf sydd yn dyfod atom i bregethu."
Rhoddodd y pregethwr ochenaid fawr gwelodd ei enw ef yn eu plith.
Bu dadlau brwd mewn Cyfarfod Brodyr un tro. Atgyweiriesid yr addoldy, ac ni chytunai rhai o'r frawdoliaeth ar liw y paent y bwriedid peintio'r muriau ag ef. Wedi cryn siarad ar y mater gofynnwyd i hen frawd gwreiddiol a bendympiai yno—"Pa baent a hoffech chwi ei weld arno, T.W.?" "Wel," meddai yntau, "coltariwch o o'm rhan i."
CYN pasio gwahanol benderfyniadau mewn Cyfarfod Misol un tro, arferai un pregethwr godi ar ei draed yn ddefosiynol gan ddweud, "Yr ydw i yn cynnyg gwelliant arno." Gwnaeth hynny tua saith gwaith. Yn sedd y gornel ym mhen draw y capel hanner—gysgai hen bregethwr diddan. Gofynnodd y Llywydd i hwnnw ddweud gair yn lle cysgu. "Wel, Mr. Llywydd, ac annwyl frodyr, dyma'r hyn sydd
ar fy meddwl i. Wrth glywed O yn cynnig ei wahanol