welliannau ar y penderfyniadau y prynhawn hwn, meddwl yr oeddwn i fod yn dda i'r Duw mawr nad oedd O. yn ei ymyl pan oedd yn creu y greadigaeth, neu mi fuasai yn siwr o gynnig gwelliant ar ei waith."
Yr oedd llanc ifanc rhadlon yn danfon pregethwr i'w gyhoeddiad i bregethu un pnawn Sul. Wrth basio cofgolofn y Parch. John Jones, Talysarn, a'i frodyr yn Nolwyddelan, gofynnodd y pregethwr i'r llanc, "I bwy y codwyd y Gofgolofn hon?" "O! i ryw dri brawd," meddai yntau. "Beth a wnaethant i gael un mor ardderchog?" meddai'r pregethwr.
"Wn i ddim yn wir, os nad hwy a adeilasant yr hen
Gastell yma."
PREGETHU AR NOSON WAITH.
Yn y blynyddoedd gynt arferid cael ambell bregeth gan wahanol weinidogion o bob enwad ar noson waith. Cofiaf y capel yn llawn, a gweithwyr o'r Baricsod o'r Rhosydd, Croesor, ac o annedd-dai o Gwmorthin yn dyfod yno yn eu dillad gwaith. Am y gweithwyr dywedodd Moses Henry Hughes fel hyn:
Gwlith Hermon i'r gweithwyr caled
Yw'r chwys ar eu gruddiau llaith,
A sacrament dlws y bore.
Yw gwisgo eu dillad gwaith."
Un o'r pregethwyr mwyaf cymeradwy a ddeuai i'r henfro oedd y Parch. John Roberts, Corris, (Rhyl wedi hynny).
Byddai bob amser yn llefaru brawddegau cofiadwy ac yn
adrodd ambell stori afaelgar.
Dyma un enghraifft o'i eiddo pan bregethai ar "Llety Glan-yr-afon"—Josua 3 ben., I adn.
"Diwedd teithio yr anialwch, adeg croesi yr Iorddonen, adeg dechrau troedio Gwlad yr Addewid. Mae ambell