wybod i'r Cymro, yr oedd tri chydymaith i'r dyhiryn yn llechu tu hwnt i gongl yr heol, yn gwylio'r ymddiddan ac yn barod i fwrw i mewn pe bai cyfle,ac odid na chollai Morgan ei drwnc, rhyngddynt i gyd. A gwell fyth nad aethai ef i'r "little pub" ar y gwahoddiad, oblegid mewn lleoedd o'r fath y collodd llawer mordeithiwr ei arian, a'i fywyd mewn amgylchiadau cyffelyb.
Gwir a ddywedodd y swyddog, ddeuddydd cyn hynny, y byddai "crush, likely as not," ar fwrdd y Richborough, oblegid pan ddisgynnodd Morgan i'w gaban, gan ddwyn ei drwnc gyd âg ef, gormod o deithwyr oedd yn y lle cyfyng eisoes i fod yn gysurus. Mewn gair, ymha le bynnag y gellid gwthio lle bunk, yno yr oedd un. Am gyflenwad o awyr ffres a chysuron ereill, nid oeddynt yn y cyfrif o gwbl. Ond, er gwell, er gwaeth, rhaid oedd i'r sawl a drefnwyd i gaban neilltuol barhau i berthyn i'r caban hwnnw am y chwe mis a oedd i ddilyn, o ba gymeriad bynnag y digwyddasai'r person hwnnw fod.
Tybiai Morgan ar y cyntaf mai hytrach yn ffodus yr oedd ef yng nghwmni ei gaban, oblegid wedi cyflwyno o bobun ei hun i'r lleill, dechreuwyd ymgomio'n hawddgar, ac nid oedd arwydd un cwmwl bynnag yn nen fechan Caban Rhif 31 y bore cyntaf hwnnw. Pan ddechreuodd y llong symud rhedodd y teithwyr i gyd i'r bwrdd fel ag i ateb chwifiadau y bobl ar y lan, ac i dreulio cynifer o'r oriau olaf ag oedd bosibl yng ngolwg yr hen wlad. Awr lawn iawn yw "awr gadael y tir," fel y gŵyr pawb ag a'i profasai. Dyna'r pryd y bydd y teimladau'n gorlifo, ac y bydd i'r gân a'r ochenaid, y ddolef a'r gair ffraeth, oll gymysgu â'i gilydd i wneuthur un argraff ddofn na ddiler byth mohoni.