y pryd yn cludo'r telpyn aur enwog hwnnw i Melbourne er diogelwch yr oeddynt.
Hawdd ydoedd deall llwyddiant neu aflwyddiant llawer o'r teithwyr oddiwrth gyflwr eu dillad, oblegid anodd iawn i'r neb a gloddiasai'r mŵn am dymor hir heb lwc ydoedd talu prisoedd uchel y dilledwyr teithiol am ddillad o gwbl. Adroddai ambell un o'r cyfryw brofiad lled ddigalon wrth y Cymro, ac oni bai ei fod wedi penderfynu ers tro y mynnai ef weld y pendraw, "watch aur neu glun bren," digon a fyddai yr ystoriau trist i dorri ei galon.
Am y rhai a enillasai wenau ffawd yr wythnosau cynt, hawdd oedd gweld y ffaith yn eu holl agwedd hwythau, oblegid llon oedd y gair a heini'r cerddediad. Ac o ddigwyddai i'r cyfarfyddiad fod yn agos i dafarndy, rhaid oedd i Forgan hefyd fynd i mewn gyd â'r gŵr oedd â'r stuff, ac yfed "Iechyd Da" i bawb yn gyffredin. Sylwai'r Cymro fod yn y saloons hyn, y tybid eu bod beunydd yn gorlifo o ddymuniadau da, gymaint trachwant a phrisoedd uchel ag yn unman; ac ef a wnaeth adduned âg ef ei hun, pa ffawd bynnag a fyddai ei ran, i beidio â gwastraffu ei dda yn null afradlon y lleoedd yfed.
Ef a sylwai hefyd fod bron pobun a gyfarfuai yn arfog; ac er mai digon cyfreithlon hynny yr amser hwnnw, eto i gyd rhoes yr olwg ar yr arfau niferus syniad lled anesmwyth iddo am gyflwr ansefydlog yr ardal. A chyn myned o'r dydd hwnnw heibio, daeth i'w brofiad ef ei hun weled a theimlo pa mor ddibwys yng ngolwg llawer oedd anghysur a hyd yn oed fywyd rhywun arall.
Oblegid ag ef wedi troedio'r ffordd arw am chwe neu saith awr, ac yn dechrau edrych o'i gylch am le cyfaddas i fwrw'r nos, ef a glybu o bell swn rhialtwch