Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Geilwad Bach.pdf/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mawr a chrechwen uchel yn ol ar yr heol a droediasai ef ei hun ychydig cyn hynny. O edrych yn ol, gwelai yn carlamu tuag ato ddau farch yn tynnu gwagen fawr a oedd yn llawn o fwnwyr ar eu ffordd yn ol i'r diggings, ar ol cael amser wrth eu bodd yn y porthladd. Amlwg eu bod oll yn hanner meddw, oblegid er eu myned heibio iddo chwifiai dau neu dri ohonynt boteli gwirod gan ffugio eu cynnig i'r teithiwr ifanc a oedd mor ffôl a bod yn sobr ar heol Ballarat y dydd hwnnw.

Dal i weiddi ac ymaflyd yn ei gilydd a wnaethai'r giwed tra parhasant yn y golwg, a'r drem ddiweddaf a gawsai Morgan arnynt ydoedd eu gweld yn sefyll i fyny ynghyd yn y cerbyd i ryw ddiben na wyddai ef mo'r achos.

Yntau a ddaliodd i gerdded yn y blaen ar eu holau, a phan gyrhaeddodd ef y man yr aethant hwy allan o'i olwg, ef a ganfu ar ganol yr heol rywbeth ar lun dyn yn gorwedd fel pe wedi ei anafu'n dost. Brysiodd y Cymro ato, ac wedi cludo ohono'r truan hyd ochr yr heol, fel ag i fod allan o berigl y gyrru enbyd ar y briffordd, ef a ganfu fod y truan yn anymwybodol ac yn gwaedu o'i ffroenau a'i glustiau. Wedi sychu'r gwaed â'i gadach daliodd Morgan y llestr bychan o'r ddiod cartre a roddasai Mrs. Mackenzie iddo wrth fin yr anafus, ac a barodd iddo lyncu dracht neu ddau ohono.

Ond er rhoddi iddo ychwaneg ymhen ychydig amser, parhau yn anghofus o bopeth oedd y dyn; a chan ei bod bellach yn dechrau tywyllu, pryderus iawn oedd y gwr ifanc am yr helynt. Ef a farnai mai un o gwmni meddw'r cerbyd, ac a gwympasai allan ohono, oedd y clwyfedig, ac y byddai i'w gyd—feddwon ddychwelyd i edrych am dano yn union. Ond ni ddaeth neb, ac