PENNOD XXXI.
"Y DELYN AUR."
TRANNOETH aeth Morgan gyd â Greg i'r mwnglawdd am y waith gyntaf, gan ddechreu dysgu y pethau yr oedd ef i'w cyflawni, neu i'w gochel. Ac ni bu ef yno'n hir cyn ei lanw âg edmygedd am y modd hwylus yr ymdriniai'r hen fwnwr â phethau afrwydd ei grefft, a'r modd y gwelai ef arwyddion sicr am werth maen o'i lofi yn unig. Nid yr un Greg oedd hwn ag a soniai ond am ddiod a rhialtwch y diwrnod cynt, ac yr oedd y wedd newydd hon ar ei gymeriad a'i allu yn un a apeliai yn fawr at y Cymro.
"Dyma fi," ebe Morgan, "wedi treulio 'foes ymysg mwnwyr y Waun gynt; ond beth a wn i, mewn gwirionedd, am y gwaith ond dim wedi'r cwbl? Mi a sylwaf yn fanwl ar fy nghyfaill, oblegid rhaid imi ddysgu llawer i fod yn llwyddiannus yn y peth y deuthum mor bell i'w ddilyn."
"I'm sure some coon has been down here disturbing the place when I was fooling round the Melbourne bars. Lucky for him that I was not at home, that's all!""
Yna ef a eglurodd i'r Cymro mai un o'r rhesymau am gael "butty" oedd y gallai un ohonynt fod mewn gofal o'r lle yn absenoldeb y llall, am fod dipyn o enw bellach i'r "Old Pit." "And if we can just hit it off," eb efe ymhellach, "I promise to put matters right between us before I go sampling Melbourne again."
Ceisiodd Morgan resymu âg ef ar y cychwyn, a'i gynghori i beidio â bod mor ffôl; ond rhoes y llall daw ar y cynghori ar unwaith, gan ddywedyd: "I