Tudalen:Y Geilwad Bach.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Y GEILWAD BACH."

PENNOD I.

AWR Y "CASTO."

NOSON oer, dywyll, yn Nhachwedd oedd hi, y glaw mân a fu'n disgyn gydol dydd wedi peidio, a'r niwl tew wedi cymryd ei le, gan gau y tywyllwch yn gynt am y pentre nag a fuasai heb ei len laith.

Y pentre hwnnw oedd y Waun Hir, ar y ffin rhwng Brycheiniog a Morgannwg, lle bu llawer meistr anturus gynt yn ceisio ennill ffortun iddo'i hun trwy gloddio'r haearn a "frigai" yn y mynyddoedd oddiamgylch, a'i ddwyn i lawr i làn Cynon i'w doddi yno. Llosgasid eisoes fforest fawr Llwydcoed gan y tadau er gwneuthur golosg yn aberth i'r ffwrnesi mawr a fynnai beunydd yr ymborth hwnnw i'w cylla tân.

A phan lwyddodd Anthony Bacon, y meistr mawr o Gyfarthfa, i wneuthur i ffwrdd â'r golosg, oblegid profi ohono fod y glo a enillai ef yn lefel fach Craig y Llyn yn troi y mŵn i well "haearn tawdd" nag a wnaethai'r coed, ef a fu'n gymwynaswr mawr i Ddeheudir Cymru, ac yn enwedig i'r Waun Hir, a ddibynnai bron yn gyfangwbl ar ei bedair ffwrnes ef.

Wedi i Bacon farw, bu i'r Waun amryw feistri eraill, a arhosodd yn yr hen le yn ol mesur yr arian a enillasant neu a gollasant. Ond yn 1819 wele deulu'r Crosha yn dyfod i'r llannerch, a hwy am ddeugain mlynedd oedd frenhinoedd y lle.