"Ie, ma' canu rhai o'r hen donau wedi bod yn gysur mawr i mi yn y wlad hon. A 'rwy'n cofio, fel pe bai y ddoe, am Rosser Beynon yn 'u dysgu i ni pan 'ro'wn i'n grotyn. Wn i yn y byd a yw yr hen Asaph byw nawr? Asaph Glan Taf 'roedd e'n galw'i hunan, chi'n gweld, a chantwr ardderchog o'dd e' he'd."
"O, y mae e' ym Merthyr o hyd, neu o leia' yr o'dd e' yno 'chydig bach cyn i fi ddod ma's yma, wa'th fe'i gwelas m'hunan yn un o'r troeon diwethaf y buo i yng Nghyfarthfa."
Yna bu ymgom hir ar wahanol bethau, ac eglurai y Cantwr mai newydd gael ei ryddid oedd ef y pryd hwnnw, ac mai dyfod i Ballarat a wnaethai ef er mwyn ennill digon o arian i fynd yn ol i'r Hen Wlad unwaith eto.
"Ond 'dw'i ddim yn gweyd y 'rhosa' i yno," ebe fe. "Ond ma' 'nghalon i 'mron torri o hira'th am ga'l gweld yr hen leoedd lle buo i'n chware gynt. Dim ond unwath, cofiwch, ac yna fe fydda i'n folon marw."
Fe welodd Morgan lawer ar Ddai'r Cantwr wedi y noswaith honno, ac, yn wir, bu cyfeillach lled helaeth rhwng y ddau; ond ychydig a feddyliai ef mai'r gwir a ddywedai Mab y Beca wrtho, am mai unwaith yn unig yr oedd i weld Cymru eto. Oblegid dywed hanes lleol iddo dreiglo yn hen ddyn penwyn i'r Bontfaen rywbryd, ac iddo letya yno am un noswaith yn unig, cyn ei fyned yn ol i Awstralia i farw.