yn annerch ei gyd—fwnwyr—fel y digwyddai'n fynychnid oedd neb yn y diggings a gaffai well croeso a derbyniad. Aethai Morgan gyd âg ef ambell waith i'r cyfarfodydd hyn, a balch iawn ydoedd i glywed ar bob llaw ganmoliaeth i'w gydymaith.
"Who'd a thought it," ebe un, "that old Mad Greg had so much in him? Why, he can fight quite as well with his tongue as he could some time back with his dukes!"
Ac amser i ymladd oedd hi yr adeg hynny yn y mwnfeydd, yn sicr, oblegid dechreuodd gormes godi ei ben hyll yno, gan beri bod anghyfraith a chynnwrf yn codi eu pennau hefyd.
Pan synnwyd y byd yn 1851 gan y sôn am gyfoeth enfawr Ballarat, buan y dylifodd yno ddynion o bobman, a llawer o'r rheiny o'r dosbarth gwaethaf posibl. Ond anfoddlon iawn oedd y trefedigion o ddyfod neb pwy bynnag yno; ac am mai hwynt—hwy oedd â'r awdurdod yn y wlad ar y pryd, pasiwyd amryw gyf reithiau a wasgai'n drwm ac yn anheg ar y dyfodiaid newydd.
Un o'r deddfau hyn oedd y drwydded i gloddio o gwbl, oblegid hi a gostiai ddeg swllt ar hugain y mis, pa un ai llwyddiannus ai peidio y cloddiwr druan. Ac o byddai iddo ef dreio ei ffawd ymhellach na hanner milltir o'r man y rhodded iddo'r drwydded gyntaf, rhaid iddo wrth drwydded arall, ar yr un telerau, cyn symud i'r tir newydd. A gwaeth na hynny, rhaid hefyd oedd i'r cloddiwr, o dan bob math o amgylchiad, fedru dangos ei drwydded neu drwyddedau i swyddogion y dalaith yr unrhyw amser y gwelent hwy fod yn dda i ddyfod heibio i'r mwnfeydd. A phe na fedrai'r mwnwyr wneuthur hynny, odid o ddiofalwch neu o anghofrwydd, gwthid hwy yn ddiseremoni i'r logs, hynny yw, carchardai'r mwnfeydd, i aros eu praw.