Tudalen:Y Geilwad Bach.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond brenhinoedd mewn gwirionedd oeddynt, sef rhai a oedd mor selog ym mudd eu deiliaid ag a oeddynt chwannog i chwyddo eu cyfoeth eu hunain. A phwy oedd y deiliaid hynny?

Welwch chwi hwynt?-ffeiners a gofiaid, rollermen, pydlers a forgemen wrth y ffwrnesi, mwnwyr a glowyr rhwng Craig y Llyn a Bwllfa Dâr, calchwyr ym Mhenderyn, gwŷr y patches ar y Rhigos, heblaw gwragedd a phlant, rhai cannoedd ohonynt ar y Waun a'r pentrefi o gylch, a'r cwbl yn derbyn eu bara a chaws oddiwrth y tunelli haearn a fyddid yn eu "casto" yn y tywod rhwng y ffwrnesi a'r afon.

"Cestid"—hynny yw, agorid y ffwrnesi i'r haearn tawdd lifo allan ddwywaith yn y dydd, sef am ddeg y bore a deg yr hwyr, ac nid oedd yr haul ei hun yn fwy prydlon ei ddyfod nag "awr y casto" wrth yr afon. Yn wir, gelwai rhai o'r hen frodorion a wyddai ryw beth am eu Beibl, y ddau amser "casto" hyn yn "gwmwl niwl" a "cholofn dân," oblegid pan frethid clai y dorau isaf â'r ffyn haearn hir, rhuthrai'r metel tawdd allan yn ffrydiau tân, gan oleuo'r holl ardal rhwng daear a nen. Ni raid wrth gannwyll i fynd i'w wely ar neb o'r ardalwyr yr awr honno, oblegid goleuid pob ffenestr ar y Waun gan y goelcerth o flaen y ffwrnesi. Ac o weld cymylau nef yn rhudd rhyngddo ag Aberdar, gwybu'r gwladwr ar ucheldiroedd Brycheiniog am awr y gollyngiad yr un modd.

O holl aelodau teulu'r Crosha, yr hynotaf ar lawer ystyr oedd Fransis, a elwid gan amlaf yn "Mr. Ffrank" neu "Sgweier Ffrank." Credai ef mewn byw yn agos at ei weithwyr, nid yn unig o ran man a lle, ond o wybod am eu trafferthion a'u llawenydd hefyd. Nid oedd ddim a allasai eu dolurio neu eu llwyddo hwy nag a oedd yntau'n gyfrannog ohono yr un modd. A phan