cochion" yn yr ymyl.
yn yr ymyl. Yna darfu hyawdledd Hayes yn sydyn, ac ni wnai cofio am ei eiriau swnfawr un iawn am y sicrwydd mai rhan llechgi a chwaraeodd ef pan oedd fwy angen nag erioed i sefyll yn ddyn.
Disgyblaeth lac oedd wedi bod yn y stockade o'r cychwyn, ac ni ymddangosai fod hyd yn oed presenoldeb y milwyr yn yr ardal wedi gwella dim arni. Aethai pobl i mewn ac allan heb neb i'w hatal, a phan elwid y rhôl, absennol oedd llawer o'r rhai y tybid eu bod yn brysur yn dal ar bob cyfleustra i'w perffeithio eu hunain mewn trin arfau.
Aeth rhyw si ar led bod ar y milwyr ofn ymosod ar yr amddiffynfa ar y bryn, ac am hynny mwy torsyth fyth yr ymagweddai'r bobl a fynnent eu hystyried gan ereill yn ddewraf dynion. A phan ymosodwyd o'r diwedd ar arsiwn yr Eureka ar wawr y Sul hwnnw yn Rhagfyr, 1854, gymaint oedd nifer y rhai a oedd allan yn y dref yn lle bod tucefn i fur y stockade, fel nad oedd mwy na deucant yn dilyn Lalor a Greg i wrthsefyll y rhuthr.
Ond y deucant hynny, chwarae teg i'w coffa, o glywed sain grâs yr utgyrn yn galw y milwyr i ymosod, a godasant fel un gŵr, ac a frysiasant, hollol anghelfydd fel yr oeddynt, at y gwelydd i gyfarfod goreuon byddin Prydain—llawddryll yn erbyn mwsged, a'r wayw i wynebu'r bidog. Ac os nad oedd Lalor a Greg yn arweinyddion cymwys mewn câd, yr oeddynt o leiaf yn ymladdwyr dewr. Rhuthrodd Lalor yma ac acw i bob lle a oedd wannaf ei amddiffyn ar y foment, gan alw am ymdrechion gorau ei ganlynwyr a gosod siampl o'u blaen yn ei weithredoedd ei hun. A hyd yn oed pan saethwyd ef yn ei ysgwydd chwith nes gwneuthur nerth ei fraich yn ddirym, dringodd i ben maen, ac oddi yno ef a gymhellai ac a galonogai hyd nes y bu i