PENNOD XXXV.
TRANNOETH Y DRIN.
ERCHYLL ydyw rhyfel a châd o dan unrhyw amgylchiadau, ond llawer erchyllach pan berthyn y ddeulu i'r un wlad ac i'r un iaith. Felly yr oedd y tro hwn yn yr unig frwydr a hacrodd Gyfandir Mawr y De erioed. Wedi i'r cwbl derfynu, taenodd rhyw fraw distaw dros Ballarat a'i gyffiniau, ac ym mhresenoldeb y trychineb anghofiwyd am yr oriau cyntaf yr holl ormes a'r dial er mwyn talu gwrogaeth i'r rhai a osododd eu bywyd i lawr i selio eu cred yng nghyfiawnder eu hachos.
A'r Saboth oedd hi, a thywyn tanbaid haul haf Awstralia yn dylifo dros y lle, pan ddringodd torf drist i fyny hyd at borth chwilfriw yr Eureka Stockade i edrych a oedd eu hanwyliaid ymhlith y rhai a syrthiodd. Rhoddasai'r milwriad orchymyn o byddai gan neb pwy bynnag hawl perthynas ar y lladdedigion, y byddai iddynt ryddid, ond gofyn am dano, i ddwyn y cyrff i'w claddu yn y modd a'r man mwyaf dewisol ganddynt hwy.
"I counted fifteen dead," ebe gohebydd y Geelong Advertiser yr wythnos ar ol y lladdfa, "one G, a fine well-set-up man and a great favourite. They all lay in a small space, their faces upward looking like lead.... A sight for a Sabbath morning I implore Heaven may never be seen again.'
Teimlai Morgan, er nad oedd ganddo hawl perthynas ar y G a nodwyd, y byddai'n waradwydd bythol arno i adael claddu ei hen gyfaill i swyddogion didostur