Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Geilwad Bach.pdf/148

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XXXVI.
HIRAETH AM GYMRU.

EDRYCHID ar Morgan erbyn hyn fel un o ffodusion y cloddfeydd, ac er na roes yr Old Pit logellaid mawr o aur ar yr untro, eto digon oedd ei gynnyrch wythnosol nid yn unig i gynnal ei berchennog ynghanol prisoedd uchel y diggings, ond i ychwanegu hyd at swm sylweddol yr arian yng ngofal Mr. Parkinson yn yr Australian Bank yn ogystal. Mwy na hynny, gwella yr oedd yr argoelion po bellaf ymlaen y cloddid; a chan i Forgan hurio ambell fwnwr anffodus i'w gynorthwyo ef yn awr ac yn y man, buan yr aeth y sôn am gyfoeth ei bwll ef drwy yr holl ardal.

Ond er hyn oll, nid hapus oedd y Cymro, ac am hynny ni chynlluniai ef ymhell ymlaen er dim. Yr oedd amryw o resymau i beri yr ansefydlogrwydd yn ei feddwl, ac i'w atal i gymryd ato gydymaith yn lle Greg. Un o'r rheiny oedd cysylltiadau Greg ei hun, am na wyddai Morgan pwy ar glawr daear a fyddai'n hawlio'r arian ar enw y Gwyddel yn y Banc. Ef a deimlai o byddai i berthynas teilwng ddyfod ymlaen, mai dim ond gweddaidd a fyddai arno ef i gydweithredu â'r cyfryw, pe ond o barch i hen berchennog y lle.

Wedi dydd yr angladd, ef a chwiliasai'n fanwl drwy y shanty er gweld a oedd yn rhai o goffrau Greg ewyllys, neu rywbeth arall, a fyddai'n taflu goleuni ar haniad ei ddiweddar gydymaith. Ond er chwilio ymhob congl, a throi dalennau amryw o lyfrau (oblegid hoff o ryw fath ar lyfr yr oedd Greg fyth), ni ddaeth dim i'r golwg a fyddai o unrhyw gymorth.