Tudalen:Y Geilwad Bach.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddaethai'r pla neu'r haint heibio i'r ardal, fel a ddigwyddasai fwy nag unwaith, gan beri i bawb a allai fyned ymaith i symud oddiyno, nid oedd neb dewrach yn gweini, cysuro, ac estyn cymorth na phreswylydd y Tŷ Mawr—y meistr a wrthodai adael ei bobl yn eu trueni. Mewn gair, gŵr o'r ddynoliaeth oreu oedd Sgweier Ffrank, yn curo cefn pobun a oedd onest ac wyneb-agored, ac yn cashau pob camwri a ffug.

O'i addysg foreol siaradai ef Saesneg rhagorol, ac ni bu ef hir mewn gofal o Waith Harn y Waun nag y dysgodd ef Gymraeg hefyd, oblegid nid yn unig yr oedd naw o bob deg o'i weithwyr yn Gymry uniaith, ond brodorion o'r ardal oedd pob swyddog wrth y ffwrnesi, a phob morwyn gyflog yn ei annedd, y Tŷ Mawr, yr un modd.

Ar y noson niwlog yn Nhachwedd, 1841, y soniasom eisoes am dani, aethai Mr. Ffrank i fyny i'r pentre, ac yr oedd ar fedr dychwelyd cyn "casto," ac yn cerdded yr heol dywyll a arweiniai i lawr heibio i Bistyll Penhow gyferbyn a'r gwaith, pan wasgarodd y fflam gyntaf ei phelydrau dros yr holl fro.

"Da iawn, Gwilym !" ebe'r meistr wrtho ei hunan, "ond munud o flaen dy amser heno. Gwell munud yn gynt nag yn ddiweddar, serch hynny."

"Hylo! pwy sy 'na?" ebe fe o glywed sŵn troed yng nghysgod y berth.

"Y fi, syr," ebe rhywun gwan mewn ateb, gan ddyfod allan i oleu'r "casto" yr un pryd.

"Ie, y fi, wrth gwrs. Fe all pawb w'eyd hynny.

Ond pwy yw 'y fi'? A pha fusnes sy gan grwt o d'oed di fod mâs yma yr amser hyn o'r nos?" Hyn a ddywedodd ef yn llym, gan feddwl mai â llerciwr ifanc y siaradai.