casglu 'chytig racor o arian, a cholli mam fach cyn ei bod hi yn cael un mwynhad oddiwrthy' nhw? Gwnaf, fe âf yn ol ar unwaith!"
Ac, yn hynod iawn, y diwrnod y daeth ef i'r penderfyniad, wele'r ddau fwnwr a oedd â'r claim nesaf ato ef ar ochr oreu'r gloddfa, yn galw heibio iddo, a wedi siarad hyn a'r llall, yn cynnig iddo dair mil o bunnau am yr Old Pit fel yr oedd yn sefyll. Llamai calon Morgan yn ei fynwes ar y cynnig; ond rhag ofn ymddangos yn rhy frysiog, ef a gymerai arno ar y foment i droi'r mater yn ei feddwl, er y gwyddai yn dda mai derbyn oedd i fod. "Kindly call back in an hour's time," ebe fe, "and then I shall give you a definite answer."
Daeth yr awr i ben, a'r answer hefyd yr un modd, ac wedi cyd—eistedd am ysbaid yn ychwaneg, tarawyd y fargen a siglwyd dwylo uwch ei phen.
"As the Bank is still open," ebe un o'r ddau a ymddangosai fel pe'n ofni y tynnai Morgan yn ol, "suppose we ask Mr. Parkinson himself to act as witness, and the money can be transferred at the same time."
Hynny a wnaed, a'r noswaith honno, cyn mynd yn ol i'w gaban drachefn, yr oedd y Cymro, rhwng popeth, yn werth agos i bum mil o bunnau.