PENNOD XXXVIII.
"TEG EDRYCH TUAG ADRE."
AM rai oriau hwyliodd y Queen Adelaide fel pe buasai arni hi ei hun awydd mawr am ben ei thaith, oblegid hi a dorrai ei llwybr draws y tonnau crychwyn gyd âg asbri rhyfeddol. Canai'r morwyr hefyd wrth eu gwaith, a hyfryd ydoedd ar bawb yn rhodio'r bwrdd gyd âg awel y De yn eu hwynebau. Ond cyn myned o'r haul i lawr, datblygodd yr awel fwyn yn wynt nerthol, ac o'i gaban clybu Morgan fynych gri chwibanogl y bos'n, ynghyd â thrwst brysiog traed y morwyr yn rhuthro yn ol a blaen uwch ei ben.
Yr oedd i Forgan gaban iddo ef ei hun ar y fordaith hon: ond er y golygai hynny fwy o gost i'w logell, golygai hefyd lawer mwy o hamdden darllen ac o gysur personol. Ac i'r diben o dreulio'r dyddiau hir mewn mwynhad tawel, ef a brynasai, cyn myned i'r llestr, nifer o lyfrau a fyddai iddo'n ddiddanwch ar y daith. Llai o lawer hefyd ydoedd nifer teithwyr y Queen Adelaide nag a oedd i'r Richborough, ac yr oedd hynny ynddo ei hun yn elfen.bwysig tuag at wneuthur cysur ei theithwyr yn fwy. A chyn belled ag y gwelai'r Cymro yn ystod y dyddiau cyntaf, gwell hefyd ydoedd ansawdd y rhain na'r dorf wancus honno ar y Richborough gynt, nad oedd iddi feddwl yn y byd ond am aur, a'r modd parotaf i'w sicrhau. Hwyrfrydig, serch hynny, ydoedd Morgan i gyfeillachu â neb ar y llestr hwn, oblegid heblaw bod ei lyfrau yn dechrau denu ei fryd, ef a wyddai hefyd, gan fod Deddf Alltudiaeth o'r diwedd wedi ei dileu, fod llawer o'r deddf—dorwyr