yn wynebu yn ol ar Brydain; ac er bod cyfran o'r rheiny bellach yn ddineswyr cymeradwy, nid diwygiedig pawb ohonynt, ac felly gocheliad a phwyll a weddai'n orau, yn enwedig ar y dechrau.
Ond daeth diwedd sydyn i'r ymgadw draw hwn, oblegid a Morgan yn darllen un prynhawn tesog yng nghysgod y cwch ar y bwrdd, aeth heibio iddo rhyngddo a'r gynwel deithiwr neilltuol, brith ei wallt a bonheddig ei gerddediad, a edrychai allan i'r môr ar y pryd.
"Hylo!" ebe'r Cymro wrtho'i hun, "ymhle gwelas i'r cerad yna o'r blân? Ma' rhwpath yndo sy'n gyfarwdd i fi."
Ond dal yn ei flaen yr oedd y teithiwr, a chan fod ei wyneb draw oddiwrth Morgan, nid oedd fodd profi ai gwir neu beidio yr argraff gyntaf, ac felly aeth y darllenwr yn ol i'w lyfr, dan y syniad mai tebygrwydd, a dim arall, oedd wedi tynnu ei sylw. Ond ymhen oddeutu chwarter awr, wele'r teithiwr yn dychwelyd gyd â'i wyneb yn llawn tuag at y Cymro. Nid oedd yn foesau da i syllu ar neb; ond, moesau da neu beidio, cyn rhoi o'r gŵr dieithr nemor i gam ymhellach yr oedd Morgan wedi taflu ei lyfr i'r naill du gan gymaint ei frys i siglo llaw â'r gŵr.
"William Ellis, o bobl y byd! O ble daethoch chi yma?"
Ni roes y gwr hwnnw atebiad o un math i'r cwestiwn a roed ar y pryd, nac i un cwestiwn arall o ran hynny, oblegid pan gafodd ef ei anadl, ei unig air am beth eiliadau oedd, "Yr Arcian Mawr!" Ond digon oedd hynny i gysylltu'r ddau gyfaill unwaith eto, ac i ailuno'r gymdeithas felys honno a ddechreuwyd mor hapus ar yr hen Waun gynt.