Tudalen:Y Geilwad Bach.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Morgan Shôn yw f'enw, syr, a mynd wy' i 'weyd wrth Gwilym y Ffwrnes fod ei blentyn bach yn wa'th."

"O, 'rwy'n gweld. Beth sydd ar y plentyn ?"

"Does neb yn gwpod, syr, ond mae e'n glawd iawn, ta beth."

"Gwell iti fynd ar unwaith felny, os nad oes ofan arnot ti."

"Ofan, syr! Dim shwd beth. 'Rwy' i mâs bob amser o'r nos."

"Beth wyt ti felly? Cwnstab?"

"Nage, syr." (Hyn gan chwerthin). "Gelwad, ac yn ennill coron bob wthnos "

"Syndod! Beth wnei di â'r holl arian hynny ?"

"Wel, syr, gan 'ch bod yn gofyn, rhoi nhw i mam.

'Dyw hitha' ddim yn hanner da 'i hunan. Ond rhaid i fi fynd, syr."

"Dyna'r ffordd, boy bach. At y fusnes mewn llaw o flaen dim. Dyma rwpath i ti a dy fam. A gwêd wrth Gwilym am ddod ata' i o dan y cloc gynted ag y gall e'."

"Diolch i chi, syr, fe wna."

Rhedodd y llanc dros y bont at y ffwrnes, a thybiai na bu erioed swllt gwynnach na'r un a welai ef yn disgleirio ar gledr ei law yng ngoleu'r "casto" y noson honno.

A chyn myned i'w gwelyau, yr oedd o leiaf ddau deulu ar y Waun yn diolch i Dduw am Mr. Ffrank, ac yn wynebu'r dyfodol yn ddewrach oherwydd cymeradwyaeth dyn da.