PENNOD VI.
MYND I YSTRADFELLTE.
DYDD Gwener pen yr wythnos, a'r geilwad yn mynd eto oddiamgylch y weithfa, cyfarfu Mr. Ffrank âg efe wrth y forge.
"Ystradfellte bore 'fory, Morgan! Bydd o dan gloc mawr yr offis am naw, ac fe awn gyd â'n gilydd."
"Olreit, syr, fe fyddaf yno mewn pryd."
A phan ddaeth y bore pwysig hwnnw tywynnai haul y gwanwyn ar fwthyn Beti Shôn gan roddi adliw newydd ar bob blodeuyn cynnar o gylch y tŷ. Nid llai hefyd yr heulwen ar yr aelwyd, lle yr oedd Morgan a'i fam yn cyfranogi o'u brecwast syml arferol. Codasai'r llanc heb ei alw y dydd mawr hwn, ac yr oedd yn barod i'r daith gryn awr o flaen yr amser.
"Cofia di fod ar dy oreu heddi, Morgan," ebe'r fam, "a phaid â bod yn rhy ewn mewn dim. Ond os gofyn neb o'r gwŷr mawr rwpath genti, g'na fe ar unwaith, a threia bido â bod yn lletwith mewn dim."
"Mam!" ebe'r gwr profiadol un-ar-ddeg oed. "Nid babi wy' i nawr, cofiwch! Ond fe wna fel y'ch chi'n gweyd. Dyma fi 'n mynd."
O'i ddyfod i olwg cloc mawr yr offis, credai Morgan na welsai ei wyneb mor hawddgar erioed. Yn wir, llon a hawddgar oedd popeth iddo ef ar fore'r anturiaeth fawr. Nid oedd ef ond wedi newydd gyrraedd yr ysgwâr o flaen yr offis pan ddaeth un o ostleriaid y gwaith yn arwain "ceffyl a thrap" i'r unfan, ac ymhen munud neu ddau yn rhagor daeth Mr. Ffrank ei hun i lawr y grisiau ac allan o'r swyddfa. Gyd âg ef yr oedd