Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Geilwad Bach.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eistedd wrth ei ochr ef. Oddiyno ymlaen yr oedd y Sgweier yn siaradus iawn âg ef, a soniai wrth y llanc am bopeth o ddiddordeb ar hyd y daith.

"Weli di'r graig yco?" ebe fe wedi eu myned heibio i'r Pantgarw. "Y Bryncul yw ei henw, ac y mae afon Hepsta ymron yn ei chylchu a'i gwneuthur yn ynys. Yr ochr draw iddi y mae Sgwd-yr-Eirw, lle mae'r afon yn cwympo dros y graig i lyn mawr. A dyna be' sy'n od—mae'r graig yn taflu'r dŵr gymint mâs dros y dibyn fel y gellir cer'ed o dan y bwa o un ochr i'r llall heb 'lychu o gwbwl! 'Rwy' i wedi 'neud 'n hunan lawer gwaith. Ond allwn ni ddim mynd at y Sgwd heddi, wa'th lle câs iawn sy yno."

Yna wedi eu dyfod at Bont Hepsta, ef a ofynnodd i'r llanc:

"Welast ti afon heb ddŵr yriôd?"

"Naddo, syr; 'does un i gâl."

"Aros di funud, a thi gei ei gweld hi cyn mynd mâs o'r cwm bach hwn."

Yna ef a esboniodd fod daear Hepsta ac Ystradfellte ym Maes y Garreg Galch, a bod agennau ac ogofäu bychain a mawrion yn tyllu'r holl ardal.

"Nawr, ma' Hepsta yn rhytag ar y wyneb lan at Bont y Gatar, ac yn dod mâs o dan Craig Bryncul; ond nid yw'n rhytag dan y bont ond pan bo llif mawr ynddi, a'r tylla yn ffaelu derbyn y dŵr i gyd. Ma'r un peth ym Mellte hefyd, fel y cei di weld."

A'r gwir a ddywedasai, oblegid pan ddaethant at Bont Hepsta nid oedd yno ddafn o ddwfr, er bod y gwely yn llawn o gerrig llyfn fel gwely pob afon arall.

Yna dringodd y cerbyd riw fawr, ac wedi cyrraedd ei chopa a dyfod i olwg y Bannau, credai Morgan na welsai harddach golygfa erioed, oblegid o'r dwyrain uwchben y Fenni (fel y'i hysbyswyd gan Mr. Ffrank),