Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Geilwad Bach.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhyfeddod mawr oedd hyn i'r llanc, oblegid, rywfodd, credai ef fod Gwaith Haearn y Waun wrth yr afon erioed. Onid yno y bu ei dad yn gweithio, a'i dadcu o'i flaen yntau?

"Wel," medde Mr. Ffrank ymhellach, "yr o'ent yn glyfar iawn hefyd i 'neuthur hewlydd; mae un ohonyn' nhw bothdu betar milltir odd'ma. Ac heblaw hynny, pan fydde nhw yn claddu rhywun mawr, yr o'en nhw'n doti carreg bedd uwch i ben. Dyna beth yw'r garreg hon, ti'n gweld. Mae pobol Ystradfellte yn ei galw hi'n Faen Madoc, ond eu camsyniad nhw yw hynny, 'sdim dowt, wâth do's mo'r enw Madoc arni o gwbwl; a mwy na hynny, nid enw Lladin yw Madoc, chwaith.' Dyma ni bron ar ei phwys hi nawr."

Enynnwyd diddordeb Morgan yn fawr gan y siarad hyn, oblegid yr oedd ef wedi darllen peth am olion gwaith y Rhufeiniaid, ond heb erioed ddyfod wynebyn—wyneb â hwynt.

"Dyma hi,—a gwell enw arni a fyddai Maen Dervac greda i. Beth nei di o'r llythrenna 'ma?"

Ac ar y gair tynnodd y Sgweier ddarn o sialc o'i boced, ac âg ef fe a olrheiniodd yr argraff ar y maen, ac fel y tyfai o dan ei law, gwelwyd mai'r geiriau canlynol oedd arni:

ɊERVVC—FILIUS IVL—IC IVCIT.

"Dyma nhw iti—'Dervac, fab Ivl, sy'n gorwedd yma.' A pha beth a ddymunai neb gwell byth? Pan fydda i farw, rhywbeth tebig 'rwy i am gael ar 'y medd innau, yn siwr iawn."

Sylwodd Morgan i'r Sgweier dynnu ei het pan ddaethant at y bedd gyntaf, ac ef a gredai ar y foment mai ei chwŷs a barodd iddo wneuthur hynny, ond mewn